Llynedd, fe es i draw i Dwrci a joies i, ond mi oedd o <b> mor </b> boeth yna, bron yn annioddefol! Diolch dduw mi o ni yn ymyl y mor:
Eleni,Fi'n mynd I Ynys Jersey ymhen pythefnos. Mae gen i ffrindiau Cymraeg ar yr ynys. Maent yn rhedeg y ganolfan canwio lleol, felly maent yn mynd a fi o gwmpas yr ynys lle mae siawns o weld Morfilod! Dwi ffili aros!
Wedyn lan i Abertawe ar gyfer yr Eisteddfod am wythnos.
Wedyn i'r ardal Celtaidd - Cernyw! byddai'n syrffio a champio trwy'r wythnos gyda fy ffrindie agos yn trio anghofio bydden ni mond gyda wythnos ar ol tan i ni fynd i'r chweched. nol i'r ysgol!!
Oes yna rhywun wedi mynd i Cernyw a gyda unrhyw awgrymiad o ble i aros? Dwi angen mynd i lle mae modd i ni syrffio, a traethau cwl.