Os tisio crys dos i'r Siop Ddillad ger y Ship, ma gan y boi gnwter hir pren, til pren, a llythi o shilffoedd hyfryd. Ella fod ei side-line mewn llyfra cristnogol yn quirk bach od ar gyfer siop ddillad ond mae'r profiad yn hwyl. Mi fuesh i Porti chwilio am grys heb lwc, a thrio fanno rôl dod nôl ar y bys - crys yn union fel o'n isio!
Y DFS dan sylw yngynt yw'r "Dumb Fuck Squad". Enw a roddwyd i grwp o ffarmwrs/josgins (er mae "josgins" gan amla'n cyfeirio fwy at ffarmwrs Bala os ti'n byw yn dre) oedd yn dreifio gwmpas yn eu ceir crapi a Land Rofars yn yfad smocio a chadw reiat. Roedden nhw'n ffycin berig bywyd ar y lôn pan oeddan nhw'n mynd am "herc" rownd Abergeirw (dwi'n gwbod, fues i ar herc sawl gwaith coeliwch chi fi). Eu cynefin arferol fuasai canol y sgwar, yn refio (noder: nid rêfio). Yn y diwedd daeth yr enw mor gyffredin am y grwp hyn, y daeth y grwp i ddefnyddio'r moniker "DFS" eu hunain, gan gyflawni proffwydaeth y disgrifiad.
Mae'r siopa difyr i gyd wedi diflannu gan fwya, y siop lyfra/recordia, siop ddillad dynion Alun Williams, T H Roberts, Celfi Diddan ond mae Siop Y Cymro a Phopty'r Dre dal yno'n gadarn. Jest angen i rywun sortio allan Siop Y Dydd o'i drwmgwsg marwaidd rwan...side-project i Siamas?
Dro bach hyfryd (os nad hyfryta) ydi i fynd fyny Pen Cefn, dros Y Golff a lawr i Bont Llanelltyd ac Abaty Cymer. Elli di wedyn gario mlaen drwy Lanelltyd a throi yn siarp i fyny i'r dde fyny'r llwybr cyhoeddus serth, caria malen nes cyrraedd llyn yna dosfyny et odrwy'r coed pîn. Wedi cyrraedd y top, mi gyrhaeddi di dy sy'n adfeilio mewn llecyn bendigedig, ond heb ffordd gall, ac o am olygfa. Presipis Newydd ydi enw'r llwybr. DDoi di lawr wedyn drwy Taicynhaeaf a galli fynd dros bont Penmaenpwl lawr at y George am beint - ond paid, paid da ti ag archebu bwyd. Mae'r safon yn aruthrol o wael ar hyn o bryd, ac mae'n ddiawledig o ddrud. Nei di mond eu annog nhw.
Maes-eio ers 2002, yo.