Dolgelle

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 08 Meh 2006 12:50 am

Mae son am ambell i dre mae'r peth gorau amdani ydy'r ffordd o 'na.

Dyw'r fath dweud ddim yn wir am Ddolgellau (ffyrdd gwael cythreulig yw pob ffordd o Ddolgellau i bob cyfeiriad).

Y peth gorau am Ddolgellau yw'r lon beicio allan o'r dre tua chyfeiriad y Bermo. Mae'n mynd ar hyd llwybr yr hen reilffordd. Yn wahanol i Rhodri a Chwadan mi fûm i'n teithio ar drên ar hyd y llwybr sawl gwaith, ond mae'r daith gan waith gwell ar gefn daerodyr (diolch Dr Beeching)!

Does dim rhaid mynd yr holl ffordd i'r Bermo arni chwaith. Am bnawn Sadwrn braf taith beic i'r George III, pryd blasus a gwydriad neu ddwy (dim gormod - mae bod yn chwil ar gefn beic yn drosedd cofiwch) a beicio'n ôl - pwy sa’ eisiau gwell?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 08 Meh 2006 6:57 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Am bnawn Sadwrn braf taith beic i'r George III, pryd blasus a gwydriad neu ddwy (dim gormod - mae bod yn chwil ar gefn beic yn drosedd cofiwch) a beicio'n ôl - pwy sa’ eisiau gwell?


Rhodri Nwdls a ddywedodd:dros bont Penmaenpwl lawr at y George am beint - ond paid, paid da ti ag archebu bwyd. Mae'r safon yn aruthrol o wael ar hyn o bryd, ac mae'n ddiawledig o ddrud. Nei di mond eu annog nhw.


Dim yr un George dwi'n cymryd?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 08 Meh 2006 9:15 am

Wel, ia.

Roedd y lle yn arfer bod yn wych, ond nawr, wedi iddynt newid dwylo sawl gwaith yn ddiweddar, mae wedi penderfynu blingo twristiaid ar draul safon. Nid y strategaeth orau i gael cwsmeriaid i ddod yn ôl, ond dyna ni, mae'r olygfa yn gwneud hynny drostyn nhw.

Mae'r cwrw dal yn dda cofia. Real ales neis.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 08 Meh 2006 9:45 am

Fydd raid i fi fynd â ti am daith bensaerniol o gwmpas ystad Vaughan's Nannau rywbryd hefyd Mabon, mae yna ryfeddodau o adeiladau, a chaer hynafol am ben Moel Offrwm (dwi'n gaddo i fi'n hun bob blwyddyn i fynd fyny 'no).

Mae dro rownd Pistyll y Cain ger y Ganllwyd a'r hen weithfeydd aur yn werth pnawn Sul (a bwyd yn Nhyn Y Groes wedyn, sydd wedi gwella'n aruthrol!).

Dwi'n joio sgwrsio wrth wylio gem rygbi ar y Marian bnawn Sadwrn, yna peint yn y Clwb.

Dyma Daith o'r Dref (yn Saesneg yn anffodus) sy'n dy arwain rownd rhai o brif henebion y dre.

Debyg taw pobol y dre ydi ei henebion gora - ma na gymeriada gwych o gwmpas y lle. Stedda yn y Torrent a sgwrsia efo'r bois sy'n propio'r bar, ond watsha am Raymond Sui Sen - ma'n foi hynod glên, ond neith o'm sdopio siarad unwaith ma'n cael gafal arnat ti!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 15 Meh 2006 1:59 am

Gan fod Ivor Wyn Jones, brif golofnydd y Daily Post, wedi fy enllibio blynyddoedd maith yn ôl 'rwy'n gwrthod prynu'r papur, ar egwyddor. Mi wnes eithriad i fy moicot heddiw gan fod son yn y papur am fy modryb druan yn cael loes wrth ymdrin â'i thomatos :(

Difyr oedd sylwi, wrth ddarllen y rhecsyn bod eraill yn cytuno a fy marn mae'r llwybr beicio yw un o ogonedda’r fro. Llwybr y Mawddach yw'r trydydd orau (wedi cael cam) o holl lwybrau beicio ynysoedd Prydain yn ol yr elusen Sustrans: Gweler yr adroddiad yma

Megis Ôl nodyn i'r uchod. Llongyfarchiadau iti, Cardi Bach, am gael dy benodi i ail fywiogi Neuadd Idris. Yn y neuadd hon mi welais dy daid, Dafydd Iwan, Max Boyce, Mary Hopkin, Tecwyn Ifan a nifer eraill o enwogion y genedl am y tro cyntaf.

Mi fûm yn y cownt yn Neuadd Idris ym mis Chwefror 1974 pan etholwyd Dafydd Êl am y tro cyntaf.

Mae Neuadd Idris wedi chware rhan bwysig yn fy mywyd ac ym mywyd Cymru, da yw gweld bod y neuadd am gael ei hadfer.

Gwych oedd ail ddarganfod hen faner yr Urdd, a syndod bod gan Ysgol Dr Williams (Ysgol crach Saesnesau) "aelwyd" yn y tridegau!

A oes modd iti egluro'r enw newydd sydd i fod ar Neuadd Idris o dan drefn dy waith? Canolfan Siamans - yn ôl y son. Mae'r enw Siamans yn un gwbl ddieithr i mi - beth yw ei darddiad a beth yw ei gysylltiad ag ardal Dolgellau?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 15 Meh 2006 9:03 am

Dwi'm yn cofio'n iawn ond dwi'n meddwl mai enw gwneuthurwr Telynau (nid anenwog) o Ddolgellau oedd Siamas?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Ger Rhys » Iau 15 Meh 2006 11:39 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:A oes modd iti egluro'r enw newydd sydd i fod ar Neuadd Idris o dan drefn dy waith? Canolfan Siamans - yn ôl y son. Mae'r enw Siamans yn un gwbl ddieithr i mi - beth yw ei darddiad a beth yw ei gysylltiad ag ardal Dolgellau?


O be dwi'n ei ddeallt, fel dywedodd Tegwraed ap, mai gwneuthwr telynau o Lanfachreth ydoedd. A dwi'n meddwl mai y gwr yma oedd yr un a ddyfeisiodd y Delyn Deyres (pwyslais ar 'dwi'n meddwl).


Rhodri Nwdls a ddywedodd:Fydd raid i fi fynd â ti am daith bensaerniol o gwmpas ystad Vaughan's Nannau rywbryd hefyd Mabon, mae yna ryfeddodau o adeiladau, a chaer hynafol am ben Moel Offrwm (dwi'n gaddo i fi'n hun bob blwyddyn i fynd fyny 'no).


Mi fyddaf innau yn gwneud yr un peth. Mae'r Moel Offrwm yn edrych dim mwy na lwmpyn bach o dir o bellter. Ond wedi rhywun gyrraedd y top, mae ymysg golygfeydd gorau'r sir os na Chymru oddi arno.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Postiogan Cardi Bach » Iau 15 Meh 2006 1:06 pm

Ymddiheuriadau na alla i fynd i fanylion nawr (trefnu'r briodas), ond am wybodaeth ewch at http://www.tysiamas.com .

Mi wna i ymhelaethu wythnos nesa :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nôl

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai