Tudalen 1 o 2
Gwersylla!
Postiwyd:
Sad 10 Meh 2006 5:56 pm
gan Manon
'Dwi newydd brynu pabell ac eisiau mynd a fy mab bach, 11 mis oed i gampio. Oes 'na rywun yn gwybod am lefydd neis y ca'i fynd a fo tra ma'r tywydd yn braf (a'r babell £30 o Tesco yn para'?)
Re: Gwersylla!
Postiwyd:
Sad 10 Meh 2006 8:46 pm
gan sian
Manon a ddywedodd:'Dwi newydd brynu pabell ac eisiau mynd a fy mab bach, 11 mis oed i gampio. Oes 'na rywun yn gwybod am lefydd neis y ca'i fynd a fo tra ma'r tywydd yn braf (a'r babell £30 o Tesco yn para'?)
Rhag ofn dy fod yn meddwl mynd i Ddinas Dinlle - dw i newydd ddod 'nol o 'na ac wedi cael rhyw olwg ddigon di-raen ar y lle. Lot o Saeson. Lot o sbwriel. Siopau a chaffis naill ai wedi cau neu'n ddigon diflas yr olwg.
Dw i'n gwbod dim am y meysydd gwersylla cofia.
Beth wyt ti eisiau neud heblaw am gysgu mewn pabell?
Postiwyd:
Sul 11 Meh 2006 1:37 pm
gan jammyjames60
Dos unrhyw lle ym mhen llyn a fe gei di golygfa gwych ac aer ffres! Heblaw am i ti fynd i Abersoch lle ma na Saeson chwyslyd yn gwisgo crysau peldroed Lloegr yn creu arogl ar draws y lle.
Postiwyd:
Sul 11 Meh 2006 4:28 pm
gan blod1 bach
ia, anelu am ochrau penllyn....pwllheli for ;na faswni...ne bala efallai!?...
bala'n le eitha neis..ac mana lyn a digon o weithgaredda ar gael yno..a saff..
Postiwyd:
Sul 11 Meh 2006 5:06 pm
gan Llefenni
Gesi amser
gwych yn gwersylla ym Mhorthclais, ger Ty Ddewi - gwych, ond clogwyni serth (er yn weledol wych) falle ddim cweit y peth i'r un bychan
Postiwyd:
Sul 11 Meh 2006 5:27 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
rhydolion os ti eisiau aros yn pen llyn.
hysbys o campsite teulu 'dio. hehe
Postiwyd:
Sul 15 Ebr 2007 5:55 pm
gan Manon
Helo!
Mae'n amser campio eto wchi. 'Dwi'n atgyfodi'r edefyn i drio cael mwy o syniadau gennych chi...
Nesh i dreulio lot o'r Ha' yn y lle gwersylla yn Seiont nurseries, oedd yn hyfryd iawn dros ben... Ond, gan bod 'na afon yna a dim ffens, a bod y bychan bellach yn rhedeg o gwmpas bob man, tydi o ddim yn eidial.
Ac yndi, mae'r babell £30 yn dal i fynd, chwara teg 'ddo fo!
Postiwyd:
Sul 15 Ebr 2007 11:43 pm
gan eusebio
Treuliais i â'r teulu'r wythnos ar safle gwersyllla'r Comisiwn Coedwigaeth ym Meddgelert ... hyfryd.
Postiwyd:
Llun 16 Ebr 2007 7:38 am
gan Blewyn
Porth Iago, Pen Llyn. Campia dy dent ar y traeth (uwchben y marc dwr uchel !) a defnyddia garreg trwm neu fricsen ar bob llinyn (guy rope?) i gadw'r tent yn syth (gweithio'n well na pegs). Wedyn cysgu i swn y tonnau, a ffrio dy facwn a wyau dros dan go iawn mewn twll yn y tywod yn y bore. Mmmmmm
Postiwyd:
Gwe 27 Ebr 2007 2:28 pm
gan Dili Minllyn
Yn y cyfamser, yn y De…
Dwi newydd drefnu treulio wythnos y Sulgwyn yn
Bank Farm Penrhyn Gŵyr, sy’n edrych yn braf iawn, ac mi gawson amser da yn
Newton Mill, ar bwys Caerfaddon y llynedd. Haf yma byddwn ni’n mynd â’m pabell i
Tolpuddle hefyd.