Gwersylla!

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwersylla!

Postiogan Manon » Sad 10 Meh 2006 5:56 pm

'Dwi newydd brynu pabell ac eisiau mynd a fy mab bach, 11 mis oed i gampio. Oes 'na rywun yn gwybod am lefydd neis y ca'i fynd a fo tra ma'r tywydd yn braf (a'r babell £30 o Tesco yn para'?) :D
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Gwersylla!

Postiogan sian » Sad 10 Meh 2006 8:46 pm

Manon a ddywedodd:'Dwi newydd brynu pabell ac eisiau mynd a fy mab bach, 11 mis oed i gampio. Oes 'na rywun yn gwybod am lefydd neis y ca'i fynd a fo tra ma'r tywydd yn braf (a'r babell £30 o Tesco yn para'?) :D


Rhag ofn dy fod yn meddwl mynd i Ddinas Dinlle - dw i newydd ddod 'nol o 'na ac wedi cael rhyw olwg ddigon di-raen ar y lle. Lot o Saeson. Lot o sbwriel. Siopau a chaffis naill ai wedi cau neu'n ddigon diflas yr olwg.
Dw i'n gwbod dim am y meysydd gwersylla cofia.

Beth wyt ti eisiau neud heblaw am gysgu mewn pabell?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan jammyjames60 » Sul 11 Meh 2006 1:37 pm

Dos unrhyw lle ym mhen llyn a fe gei di golygfa gwych ac aer ffres! Heblaw am i ti fynd i Abersoch lle ma na Saeson chwyslyd yn gwisgo crysau peldroed Lloegr yn creu arogl ar draws y lle.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan blod1 bach » Sul 11 Meh 2006 4:28 pm

ia, anelu am ochrau penllyn....pwllheli for ;na faswni...ne bala efallai!?...
bala'n le eitha neis..ac mana lyn a digon o weithgaredda ar gael yno..a saff..
***bicini***
blod1 bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 264
Ymunwyd: Llun 21 Maw 2005 7:55 pm
Lleoliad: gwlad y rwla

Postiogan Llefenni » Sul 11 Meh 2006 5:06 pm

Gesi amser gwych yn gwersylla ym Mhorthclais, ger Ty Ddewi - gwych, ond clogwyni serth (er yn weledol wych) falle ddim cweit y peth i'r un bychan :winc:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Sul 11 Meh 2006 5:27 pm

rhydolion os ti eisiau aros yn pen llyn.

hysbys o campsite teulu 'dio. hehe
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Manon » Sul 15 Ebr 2007 5:55 pm

Helo!

Mae'n amser campio eto wchi. 'Dwi'n atgyfodi'r edefyn i drio cael mwy o syniadau gennych chi...

Nesh i dreulio lot o'r Ha' yn y lle gwersylla yn Seiont nurseries, oedd yn hyfryd iawn dros ben... Ond, gan bod 'na afon yna a dim ffens, a bod y bychan bellach yn rhedeg o gwmpas bob man, tydi o ddim yn eidial.

Ac yndi, mae'r babell £30 yn dal i fynd, chwara teg 'ddo fo!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan eusebio » Sul 15 Ebr 2007 11:43 pm

Treuliais i â'r teulu'r wythnos ar safle gwersyllla'r Comisiwn Coedwigaeth ym Meddgelert ... hyfryd.

8)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Blewyn » Llun 16 Ebr 2007 7:38 am

Porth Iago, Pen Llyn. Campia dy dent ar y traeth (uwchben y marc dwr uchel !) a defnyddia garreg trwm neu fricsen ar bob llinyn (guy rope?) i gadw'r tent yn syth (gweithio'n well na pegs). Wedyn cysgu i swn y tonnau, a ffrio dy facwn a wyau dros dan go iawn mewn twll yn y tywod yn y bore. Mmmmmm
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 27 Ebr 2007 2:28 pm

Yn y cyfamser, yn y De…

Dwi newydd drefnu treulio wythnos y Sulgwyn yn Bank Farm Penrhyn Gŵyr, sy’n edrych yn braf iawn, ac mi gawson amser da yn Newton Mill, ar bwys Caerfaddon y llynedd. Haf yma byddwn ni’n mynd â’m pabell i Tolpuddle hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron