Aberaeron - be gai neud?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Aberaeron - be gai neud?

Postiogan rhithweledigaeth » Maw 20 Meh 2006 2:52 pm

Mynd i Aberaeron cyn bo hir am chydig ddyddiau - unrhyw syniadau am be gai wneud tra dwi yno? Dwi'm yn chwilio am amser gwyllt dest amser ymlaciol.......

Diolch yn dew!
rhithweledigaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 08 Chw 2006 5:09 pm

Postiogan khmer hun » Maw 20 Meh 2006 3:09 pm

Chips mewn côn papur o'r chippy ganol dre'. Cerdded yr harbwr draw i'r Harbourmaster am lasied o win a photyn o olifs. Cacen a thebot bach yn llofft Ji-binc. Holi'r nofelydd a'r arbenigwr gwin lleol, Cynan Jones, am botel dda o Pinot yn ei siop flodau/presants/gwin ar y ffordd fawr. Hufen ia mêl ar yr harbwr a rhyfeddu at liwiau'r tai. Drinc yn y Prins of Wales. Prynu smofenirs yn yr oriele/gweithdai bach sy' lan i'r chwith wedi'r eglwys a'r siop gardiau/arlunio sy' ar law dde'r parc. Seiclo hyd y llwybr braf i blasdy Lanerchaeron a rhyfeddu at bensaernïaeth John Nash ac at yr ardd berlysie, y gegin, y pantri, y becws a'r bragdy a llofftydd bach y morwynion sy' i gyd wedi'i cadw fel o'n nhw. Cer am dro i Gilfach yr Halen, Cei Newydd, Cwmtydu, Llangrannog...
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan sian » Maw 20 Meh 2006 4:01 pm

Pwy sy eisiau mynd dros y môr 'de?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Clebryn » Maw 20 Meh 2006 5:26 pm

Eistedd ar wal yr harbwr yn yfed botel o win gwyn y tu allan i'r Harbour Master, ac yn bwyta llond plat o wystrys (oysters)

Neu yfed peint a bwyta bag o chips o'r "Celtic" yn beer garden y Monachty Arms.

Beth am gerdded y llwybr cyhoeddus ar hyd yr arfordir neu ddal cwch allan i Fae Ceredigion i chwilio am fywyd gwyllt?

Neu beth am just diogi ac ymlacio am y penwythnos, gan fwynhau'r tywydd braf a edmygu'r pensaerniaeth Georgaidd ar hyd yr harbwr
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan rhithweledigaeth » Maw 20 Meh 2006 5:48 pm

Ew! Diolch o galon am fod mor hael hefo'ch syniadau - dwi'n edrych mlaen yn arw rwan!

Ia wir Sian, os di'r tywydd ar ein hochr, lle gei di well na Chymru ynde!

Hwyl fawr a diolch eto!
rhithweledigaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Mer 08 Chw 2006 5:09 pm

Postiogan Cynyr » Mer 21 Meh 2006 3:15 pm

Clebryn a ddywedodd:Neu yfed peint a bwyta bag o chips o'r "Celtic" yn beer garden y Monachty Arms.


Ie...ond dwi'n dweud fod tships o'r tsipi ar y stryd fawr yn neisach :D :winc:

Ma Cei Newydd a Llangrannog yn braf (neisach os yn cadw i ffwrdd o wyliau'r Haf....." ooorrooiiittt yyaww, lovley plaice this Clancrannock ia naw!!)

Chwarae teg i ti khmer hun..... dwi ddim di sylwi cymaitn sydd i neud yn Aberaeron, ysbrydoliaeth i mi yn ystod fy awr ginio yn y dyfodol.. diolch 8)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Postiogan Jams » Mer 21 Meh 2006 3:38 pm

Ma'r llwybr rhwng y dre a Llanerchaeron yn le tawel iawn i ymlacio ar brynhawn o Haf!oninai am y ceir a'r defaid wrth gwrs. :winc:
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan khmer hun » Iau 22 Meh 2006 10:12 am

khmer hun a ddywedodd:Holi'r nofelydd a'r arbenigwr gwin lleol, Cynan Jones,


Syniad arall fydde darllen'i nofel e gynta',The Long Dry, tra'n byta cocos o'r fan bysgod ar y sgwâr. Boi lleol, â Chymraeg da, er 'chydig yn rhydlyd, felly cofiwch ei gyfarch yn Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan sian » Iau 22 Meh 2006 10:18 am

A chofia wrando ar y bobl leol yn siarad - yn nhop Sir Aberteifi mae Cymraeg hyfrytaf Cymru.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gowpi » Iau 22 Meh 2006 10:41 am

khmer hun a ddywedodd: Cer am dro i Gilfach yr Halen, Cei Newydd, Cwmtydu, Llangrannog...

...Tresaith... (un o draethau saffaf Cymru, gyda rhaeadr yn llifo dros glogwyn i'r mor a Chymry Cymraeg yn rhedeg y siop fach ar y traeth.) Hala neges breifat os ti am aros mewn un o'r dair fflat sydd gennym yng nghanol y pentref :winc:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron