Wel, diflanodd yr haul ar ol Blaenplwyf!!!
Cefais amser braf ac ymlaciol yn bwyta'r hufen ia a'r cocos - sa wedi bod yn brafiach os fuasai'r tywydd wedi bod yn well ond dyna fo
Pan aethais i weld y siopau bach crefft wrth yml yr eglwys, dim ond dau le oedd ar agor ond efallai fy mod braidd yn fuan ac hefyd roedd ffair grefftau yn y dre felly, mae'n siwr eu bod i gyd yno!
Lle braf iawn i botsian o gwmpas
Ti'n iawn Sian - nes i fwynhau eistedd mewn ty tafarn yn gwrando ar ffermwyr yn siarad - dim ar y geiriau, dest 'miwsig' eu lleisiau - hyfryd iawn
Oes rhywun yn gwybod be goblyn ddigwyddodd i'r adeilad na wrth yr afon - dachi'n gweld cefn yr adeilad (neu, be oedd yn gefn i'r adeilad) wrth sefyll ar y bont yn y parc?!
Diolch i chi gyd unwaith eto