Clebryn a ddywedodd:
Niagra Falls yn impressive iawn- yn ogystal a ymweliad a'r CN Tower (twr mwyaf y byd) yn Toronto. Cei di gyfle yma i wneud digon o siopa yn ogystal a darganfod bargeinion yn y farchnad enfawr yng nghanol y ddinas.
Newydd ddod nol o Canada ble treulais rhai diwrnod yn Toronto a diwrnod yn Niagara, (gweler fy map bach personol - ydw dwi'n drist)
http://www.tagzania.com/user/benbore/canada
ble mae rhestr o bethau wnes i / es i
Dwi wedi bod i Washington hefyd, treuliais born i ddiwrnod cyfan yn yr ardal Amgueddfa/Tŷ Gwyn/Capitol Hill mae parciau neis a ballu yn y canol. Hefyd pan oedd yn amser gadael sylwais a'r rhywbeth o'r enw 'Civil Rights Trail' neu rhywbeth tebyg, ble dwi'n meddwl cewch eich tywys ar hyd llwybrau gorymdiethio am hwliau i bobl corenddu, neu o leiaf mae llefydd wedi eu nodi ar hyd y lle fel gallwch ddilyn y llwybrau eich hunain - werth ymchwilio/holi.
Es i hefyd i Gettysburg sy'n werth mynd i, ond roedd car gyda fi. Efallai bod teithiau yn mynd o Washington/Baltimore