Tudalen 1 o 2

Beth i'w wneud yn Llambed

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 3:48 pm
gan Dafydd ab Iago
Sut mae pawb!

Dwi'n mynd i Lambed y fis nesaf i ddysgu Cymraeg (cwrs pellach).

Beth mae i'w wneud yn Llambed? Os 'na aelodau mae-e sy'n byd yna?

Diolch!

Dafydd

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 4:25 pm
gan Rhys
Allai ddim helpu gyda beth i wneud yn Llanbed, ond pob hwyl ar y cwrs beth bynnag. Mae pawb yn cael amser da yno o beth dwi'n glywed.

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 4:55 pm
gan Macsen
Hwre! Rydw i'n byw yn Llambed.

Ond a dweud y gwir does dim llawer i'w wneud yma ond gweithio! Y peth gorau i'w wneud yn dy amser sbar yw gadael am Aber/Caerdydd/Y Gogledd.

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 5:26 pm
gan khmer hun
Ma ishe ti drio bach mwy Macsen a chei dy synnu...

Pobol Llambed yw rhai o'r bobol wirioneddol neisa', di-lol a rhadlon wy 'di dod ar'u traws. Does dim byd garw yn'u cylch. Mae'u hacen yn fendigedig; yn barabl cyflym, sing-song. Jyst cer i un o'r holl gaffis/llefydd bara bach hen-ffash lle mae ledi bach yn dy syrfo a gwranda. Mae'n anodd osgoi'r holl fyfyrwyr-grunge-Goth-MarilynManson-teips a'r Seimon Chwydlys sy'n hel eu llodrau hyd lle. Mae yna wahaniaeth amlwg rhwng y teuluoedd ffermo lleol a'r rhai sy' 'di setlo yn y pentrefi cyfagos fel Betws Bledrws sy'n tueddu i werthu'r ddelwedd reikïaidd ac organig, ond mae fel tae'r ddwy garfan yn byw'n ddigon cytun ar yr un patsh yn Llambed. Wedi arfer, wy'n siwr.

Bydd wahanol i'r hipis a thorra dy wallt yn y dafodiaeth a'r steil leol yn Dere i Dorri. Contis - yr enw gore a'r caffi gyda jukebox gore'n Sir Aberteifi, lle prysur a difyr. A mae yna glwb nos yn Llambed wyddoch chi! O'dd arfer bod lot o gigs Cymraeg yma, ond dim sôn erbyn hyn. Siopau bach neis i brynu presants 'fyd.

Pob lwc iti Dafydd ab Iago. Ti'n siarad Fflemeg?

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 5:49 pm
gan khmer hun
khmer hun a ddywedodd:Bydd wahanol i'r hipis a thorra dy wallt


Wps, newydd sylwi ar dy lun - does gyda ti ddim llawer o wallt oes e? :winc:

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 6:05 pm
gan Twpsan
Mynd i B J Jones innit

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 9:32 pm
gan dyfan
B J Jones wedi cau ers rhyw 3/4 mis :!:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Meh 2006 11:30 am
gan Twpsan
NEfar! :crio:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Meh 2006 11:48 am
gan nicdafis
Siop recordiau Hag's.

Cofia fod yn neis i'r tiwtoriaid ar y cwrs. Pobl ffein iawn.




(Paid poeni, dw i ddim yn dysgu dy grwp di. ;-))

PostioPostiwyd: Gwe 23 Meh 2006 12:19 pm
gan Ari Brenin Cymru
Cofio mynd i sdeddfod Llanbedr flynyddoedd nol i gystadlu gyda'r ysgol. Roedd pedwar ohona ni yn aros yn nhy mawr iawn perchnogion y siop B.J Jones ac gennai rhyw go na nhw oedd wedi dylunio'r gadair ne rhywbeth. Amser maith yn ol.