Tudalen 1 o 1

Teithio i Eisteddfod Abertawe

PostioPostiwyd: Sul 25 Meh 2006 8:03 pm
gan Ari Brenin Cymru
Sut mae pawb yn mynd lawr ir sdeddfod blwyddyn yma? Dwi'n tybio ma bws fydda ni'n mynd lawr arno. Oes modd cael Red Rover yr holl ffordd lawr? Ta dim ond yn y gogledd mae hwnnw'n gweithio?

PostioPostiwyd: Sul 25 Meh 2006 8:07 pm
gan Lowri Fflur
Red Rover, dim ond yn gweithio nes bod chdi'n cyrraedd Aberystwyth dwi'n meddwl.

Ti wedyn yn gallu cael tocyn return o Aberystwyth i Abertawe am rhywbeth fel £15 a gyna chdi fis i fynd nol i Aberystwyth efo fo.

Dwi'n meddwl bod hyn yn gweithio allan yn rhatach na prynnu tocyn o'r Gogledd i Abertawe.

Gobiethio bod hyn o help.

PostioPostiwyd: Sul 25 Meh 2006 8:10 pm
gan Ari Brenin Cymru
y fam ddaear a ddywedodd:Red Rover, dim ond yn gweithio nes bod chdi'n cyrraedd Aberystwyth dwi'n meddwl.

Ti wedyn yn gallu cael tocyn return o Aberystwyth i Abertawe am rhywbeth fel £15 a gyna chdi fis i fynd nol i Aberystwyth efo fo.

Dwi'n meddwl bod hyn yn gweithio allan yn rhatach na prynnu tocyn o'r Gogledd i Abertawe.

Gobiethio bod hyn o help.


Ok, cool. Diolch yn fawr.

PostioPostiwyd: Sul 25 Meh 2006 11:29 pm
gan jammyjames60
'swn i'n meddwl 'sa coach mawr yn rhatach na mynd ar fws?!

PostioPostiwyd: Llun 26 Meh 2006 6:11 am
gan sian
jammyjames60 a ddywedodd:'swn i'n meddwl 'sa coach mawr yn rhatach na mynd ar fws?!


ac yn gynt. Mae tipyn o gwmniau bysus o'r gogledd yn trefnu trips i'r Steddfod am ddiwrnod a rhai eraill yn dod lawr am chydig o ddiwrnodau - lot yn dod trwy Port. Dw i ddim yn siwr a ydyn nhw'n codi am daith ddwy ffordd os wyt ti jest yn mynd un ffordd - ond hyd yn oed os ydyn nhw mi allai fod yn rhatach - ac yn fwy cyfleus.
Treia Nefyn Coaches, Silver Star, Caelloi etc.

PostioPostiwyd: Sad 29 Gor 2006 6:37 pm
gan Dai dom da
Sain shwr lle i ofyn am hyn, so wnai jest sticko ir pwnc hwn.

Wes cliw 'da rhywun faint or gloch bydd bysus yn mynd o'r maes carafannau ir maes yr eisteddfod yn ystod y dydd? Rhyw fath o timetable dwi'n chwilio amdano, a dwi di trual gwefan arriva ond ffili ffeindio dim.

Hefyd, a wes unrhyw bysus yn mynd ir gigs yn y nos?

Diolch

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 11:24 am
gan Rhys
Tria Gyngor sir Abertawe. Dwi newydd dderbyn taflen gyda'u henw nhw arno (ac enw Arrive hefyd) heddiw gan Fenter Abertawe. Mae'n amselren bwysiau

o

Orsaf Bus Abertawe (a'r Orseaf tren, Llyfregell Treforys) i'r Maes

ac o

Benclawdd i'r Maes


Mae nhw'n rheolaidd iawn ac mae'r bes olaf o'r dre'n gadael 23:10 (ddim yn digon hwyr i weld diwedd gig efallai, ond eto'n dal yn reit hwyr)

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 11:31 am
gan joni
Rhys a ddywedodd:Tria Gyngor sir Abertawe. Dwi newydd dderbyn taflen gyda'u henw nhw arno (ac enw Arrive hefyd) heddiw gan Fenter Abertawe. Mae'n amselren bwysiau

o

Orsaf Bus Abertawe (a'r Orseaf tren, Llyfregell Treforys) i'r Maes

ac o

Benclawdd i'r Maes


Mae nhw'n rheolaidd iawn ac mae'r bes olaf o'r dre'n gadael 23:10 (ddim yn digon hwyr i weld diwedd gig efallai, ond eto'n dal yn reit hwyr)


Ma'r ddogfen yna (dwi'n credu) ar y linc isod.
http://www.eisteddfod.org.uk/uploads/MediaRoot/CY_614_Eisteddfod%20-%20How%20to%20get%20there%20inner.pdf