Mis Medi wy'n mynd i hedfan mas i Dde America, a dod adre jest cyn 'dolig. Sai'n siarad gair o Sbaeneg, felly ro'n i'n meddwl aros mewn un lle a mynd ar gwrs Sbaeneg am tua mis, wedyn teithio am weddill yr amser.
Ble fydde'n dda i dreulio mis yn mis medi/hydref? Hefyd, oes unrhyw brofiad gyda unrhywun o gyrsiau gwahanol? Ar y foment wy'n meddwl bydde'n well dechrau rhywle yng y gogledd, teithio lawr, a chyrraedd Patagonia ym mis rhagfyr. Odi hyn yn swnio'n syniad da, o rhan y tywydd?