Tudalen 2 o 2

Re: Symud i'r Gogledd. Rhuthun a fod yn fanwl!

PostioPostiwyd: Maw 04 Gor 2006 1:58 pm
gan Iesu Nicky Grist
dai mawr a ddywedodd:Angen cyngor.


Paid. :lol:

Re: Symud i'r Gogledd. Rhuthun a fod yn fanwl!

PostioPostiwyd: Gwe 07 Gor 2006 9:24 am
gan dave drych
dai mawr a ddywedodd:...oes gennych chi gyngor i mi ar yr ardal a thai yn yr ardal?


Mae nhw wrthi'n (neu ar fin dechrau) adeiladu swp o dai newydd yn Rhuthun. Dwnim be fath o dai fydd rhein, ond sôn gan y cyngor bod mi fydd ne tai fforddiadwy ar gyfer first time buyers (i fod) a hefyd tai mawr posh.

Os tisho byw yn y dre ei hun, mae llefydd fel Mwrog Street yn werth meddwl am fel dudodd SW, jysd bod yswyriant ty yn mynd i fod yn ddrud oherwydd y llifogydd cynt. Neu os tisho byw tu allan i'r dref, mae ne ddigon o pentrefi fel Rhewl, Llanfair, Pwllglas, Cyffylliog a Bontuchel, Llanrhaeadr ("Llanruad") sydd ddim yn rhy bell. Fyswn i'n osgoi rhei llefydd - e.e Greenfield Road (lle mae Nain a Taid yn byw) gan mai m'ond pensiynwyr sy'n byw yne a hefyd Llanbedr gan mai m'ond pobl o Gaer sy'n byw yne.