gan Llo Cnaf Id » Maw 18 Gor 2006 9:48 am
Es i i Siapan y Medi dwytha, i rannol fynd ar drip twristaidd a'n rhannol i ymweld a nghefnder sydd yn gweithio lawr yn De. "Whistle-stop" oedd fy ngwylia yno, ond mi fues i Tokyo, 'namlwg, a mae werth treulio dau/dridia 'no yn crwydro o gwmpas jyst yn gweld beth sydd ar gael. Mae o mor wahanol mewn gymaint o ffyrdd i be 'da ni wedi arfar efo fo, mae hynna'n ddigon o brofiad yn ei hun. Trio brawddega Siapaniaidd allan i ffindio dy ffordd o gwmpas, mynd i'r llefydd bwyta a bod yn hollol puzzled efo'r fwydlen a'r traddodiadau, mynd i'r temlau a'r shreiniau bychain (a mawrion), mynd i'r farchnadoedd lle mae'r "hawkers" yn gwisgo crys a thei ac maer'r taflenni hysbysebu ma nhw'n dolio allan ar ffurf gwyntyll i chdi gael chywthu'r gwres o dy wynab. Hei, nes i hydnod fynd i weld ffilm (ffantasi i blant) mewn Siapanieg, oedd yn ddigon ffecin swreal yn ei hun.
Es i hefyd i Kyoto, sydd efo ardaloedd mwy traddodiadol--dos i Gion, sydd efo siopau bach mewn llwybrau troellog, lle mae certiau yn mynd a chdi o gwmpas yn cael i tynnu gan ddynion a choesa cryfion. Dos itr Saijusengendo (duwarth dwi di camsillafu hwnna go siwr), sydd, os cofia, yn neuadd hir bren gyda 1000 o ddelwau aur o Bwda oddi mewn, bob un chydig bach yn wahanol i'r llall. O ia, a dos i'r palas aur, dw i ddim yn cofio'r enw Siapanieg amdano, ond mae o yn dy thri llawr wedi ei ddecio ag aur, ar gyfyl llyn hollol wydraidd ac mewn coedlan dawel. Hyfryd.
Es i hefyd i Osaka, am ymweliad hedfannol, a mae'r castell ("Osaka Jo") yno yn werth i weld, er mai a) ailadeiladiad ydy o, dim byd gwreiddiol, a b) tu mewn maer o jyst yn breeze blocks ac arddangosfeydd, gresyn). Yn y dre yma cysgais i mewn capsiwl hefyd--mae o'n uffar o od, ac mi gymris i ejys i weithio allan lle roedd y swits golau, ond mae o mor unigryw i Siapan mae o'n werth i ti drio fo--am un noson, wrth gwrs.
Wedyn mi dreuliais i amser yn Kagoshima, sydd yn y De o Kyushu, yn aros efo nghefndar. Prif atyniad Kag ydy bod na losgfynydd ac tif yn y mor gerllaw, sydd yn poeri huddugl i'r awyr yn dragywydd. Yma naethon nhw ffilmio diweddglo You Only Live Twice, dontcha know. Gefais i brofiad gwych yn Kag, gan fod gen i rywun gyda mi oedd yn nabod yr ardal, ac yn mynd a fi i weld llefydd ac i neud petha nad ydy'r twrist yn gwybod amdanynt. Y bariau dirgel lle mae £7 yn cael i ti gymaint o gwrw a ti'n gallu yfad mewn dwyawr, neu'r llefydd bwyta sydd seis cwpwrdd a lle mae nhw'n rhoi octopws wedi gyri-o mewn batyr a saws Soy--rhyfedd ond diddorol tu hwnt. Fel dudodd rhywun yn uchod, dyma ffordd wych o weld gwlad dramor--trio ffindio rhywun sy'n nabod y lle. Ond mae crwydro ben dy hun mewn lle newydd hefyd yn brofiad anhygoel, ac yn dod a rhyw deimlad arbennig--i fi, o leia.
Bob lwc i ti os ti'n mynd! Uffan o le.
Y Llo