Tudalen 1 o 2

Siapan

PostioPostiwyd: Llun 03 Gor 2006 4:52 pm
gan Llefenni
Wel, dwidi mopio efo'r lle - ac am safio i gyd o'r arioan alla'i i fynd yno - o bosib iawn dros gemau Olympaidd Llogerwys yn 2012 (fydda'i di safio digon erbyn hynny gobeithio).

Felly, oes gan unrhwun y syniad lleia o le i fynd, be i'w wneud a faint neith o gostio? Dwidi bod yn Ngwlad Malay o'r blaen, felly mae gennai rhywfaint o syniad am Asia, a'r math o ddiwylliant i ddisgwyl - ond yn deall bod y Siapanaewyr yn rwbeth hollol wahannol eto :D

So - bedibe hogie? Mynd draw yn canu Jakokoyak a gobeithio neuth rwyn gym'ryd piti drosa'i? :syniad:

Re: Siapan

PostioPostiwyd: Llun 03 Gor 2006 7:29 pm
gan blanced_oren
Llefenni a ddywedodd:Felly, oes gan unrhwun y syniad lleia o le i fynd, be i'w wneud a faint neith o gostio? Dwidi bod yn Ngwlad Malay o'r blaen, felly mae gennai rhywfaint o syniad am Asia, a'r math o ddiwylliant i ddisgwyl - ond yn deall bod y Siapanaewyr yn rwbeth hollol wahannol eto :D

So - bedibe hogie? Mynd draw yn canu Jakokoyak a gobeithio neuth rwyn gym'ryd piti drosa'i? :syniad:


Fues i yn Siapan tua 3 mlynedd yn ol. Es i aros gyda ffrind ger Hiroshima.

Hedfannais i o Lundain i Osaka ac wedyn y 'Tren Bwled' i Hiroshima. Mae'r tren yma yn arbennig o dda. Fel cymhariaeth cymherodd hi tua 2 awr - ar y ffordd nol es i mewn bws - dros nos!!!

Mae Hiroshima yn ddinas glan a modern (wrth gwrs - dinistriodd y bom bron popeth). Llawer o lefydd i siopa a bwyta. Mae'r amgueddfa yn werth ei gweld ac hefyd y gerddi traddodiadol (sai'n cofio'r enw sori).

Ond falle y lle mwya prydferth oedd Miyajima - ynys sy'n daith fferi byr o Hiroshima. Mae llawer o demlau Bwdist, a stondinau bwyd, siopau twristaidd ayyb.

Roedd y bobl yn gyfeillgar iawn, ac yn gwrtais fel byddet ti'n disgwyl.

Roedd y bwyd yn amrywio llawer. Yn fy marn i, roedd rhai ohono fe'n afiach ond rhai yn hyfryd. Mae lot o bysgod, reis, wyau a llysieu. Doed bron dim bara, llaeth na chaws.

Mae'r iaith yn anodd a bron neb yn siarad Saesneg. Ro'n i'n ffodus bod fy ffrind yn rhugl yn Siapaneg. Wedi dweud 'ny, nes i ymdopi ar fy hunan. Mae pawb yn trio helpu ac o leiaf mae llawer o arwyddion yn dangos y llythrennau Romanaidd.

Dwi'n credu taw y gwanwyn neu'r hydref yw'r amserau gorau i fynd. Mae'n eitha boeth yn y haf ac yn oer iawn yn y gaeaf. Es i yn gynnar ym Mis Tachwedd. Roedd hi'n digon dwym yn y dydd ond yn oer iawn dros nos. Weithiau roedd tipyn o eira. Un rhybudd i ti: does dim ynysiad mewn tai yn Siapan felly pryd mae'n oer, mae'n rili oer.

Mwynha'r trip.

PostioPostiwyd: Maw 04 Gor 2006 8:59 am
gan Llefenni
Blanced bach, ti'n seren! Dwidi bod am ddysgu'r iaith ers dipyn, achos dwi'm llawer o ffan o swanio fewn yn disgwyl i bawb siarad Saesneg :x

Yr Hydref yn apelio, am y tywydd llai poeth, a'r gwyliau a lliwiau. Oedd y gost yn arswydys tybed?

PostioPostiwyd: Maw 04 Gor 2006 7:37 pm
gan Nanog
Os wyt wedi cwympo mewn cariad gyda'r lle, pam na wnei di fynd i weithio yna am rywfaint. Dwi ddim yn gwybod dy sefyllfa, ond mae'n ddigon hawdd cael swyddi yno yn dysgu Saesneg os oes gennyt radd mewn unrhwy bwnc. Roedd gennyf ffrind a wnaeth hyn. Mae'n bosib i ti wneud digon o arian i fyw yna a rhagor er mwyn gweld gweddill Asia neu safio. Mae hi'n gallu fod yn ddryd iawn yna ond o beth ddeallaf, mae'n bosibl byw'n weddol resymol 'na hefyd. Os wyt ti'n weddol ifanc ac yn hoffi dy beint a chymdeithasu, mi fyddi di'n timlo'n gartrefol yn Tokyo.

Gaijin fyddi di, sef tramorwr gwyn dwi'n meddwl. Ac fel dwi'n deall, fydd hyn yn gweithio o dy blaid mewn rhai sefyllfaoedd ac yn dy erbyn mewn eraill.

PostioPostiwyd: Maw 04 Gor 2006 7:55 pm
gan Nanog
A fyddi di'n ymweld ag China? Rhaid i ti....Mae 'na daith long yr wyf i eisiau gwneud ryw ddydd....o Shanghai, China i Osaka, Siapan. Rwy'n hoffi tiethio ar ddwr. Mae'n bosib iawn taw ti fyddai'r Cymro cynta...os na fydda i wedi ei wneud yn gynta..... :)

PostioPostiwyd: Mer 05 Gor 2006 8:55 am
gan Llefenni
Diolch Nanog - do dwidi darllen am y Gaijin o'r blaen - mae'n rhaid i fi galetu'n hunan fyny rhywfaint dwi'n meddwl, mae hi'n llawer rhy hawdd i fi grio, a garanîd ddigwiddith o pan dwi mewn sefyllfa doji allan fanno :(

Diolch ti am dy gyngor - hynod ddefnyddiol cofia :D

PostioPostiwyd: Mer 05 Gor 2006 4:45 pm
gan Mr Groovy
Mae'n flynyddoedd ers i fi fod yna ond ddwlen i gael mynd nol yna rywbryd.
Dreulies i'r holl amser yn Tokyo efo fy nheg yn agored gan fod popeth jyst mor :ofn: WAW - y lle mwya egnïol allai ddychmygu. Swn i'n gallu crwydro am ddyddie jyst yn edrych ar y bobl a'r adeiladau.
Kyoto yn gyfuniad braf iawn o'r newydd a'r traddodiadol - lot o demlau gwerth eu gweld yna.
Ma awyrgylch Hiroshima'n unigryw a bendant yn werth ei brofi, Traeth Amanohashidate yn fantastic (sori, fydden i'n rhoi linc i ddangos llun ond sai'n gwbod sut!) a tria gael trip ar y tren bwled hefyd - ma'r daith heibio troed Mt Fuji yn un o'r golygfeydd enwoca'r wlad, a taset ti yna pan ma'r coed ceirios yn blodeuo…wel…!

Ym Mis Awst es i ac odd hi'n drymedd iawn ond odd hynny'n golygu'r stormydd mwya dramatic weles i erioed. Ac ma hynny dros ddinas mor neon a Tokyo yn amêsing!

Dreulies i chydig o amser mewn pentre bach gwledig tua awr o Kyoto, ac odd hi'n braf gweld y gwahaniaeth rhwng lle fel hyn â'r ddinas fawr - odd bobl jyst yn rhyfeddu i weld person efo gwallt golau fel fi yn eu pentre, ac odd ambell un yn dod atai yn y stryd yn gofyn i gael cyffwrdd fy nghroen a ngwallt i, wiyrd!

Fy mhroblem fawr i ar y pryd odd y bwyd - dodd e ddim cweit wrth fy modd i - octopus byw yn symud ar draws y plat... ffacin tofu ym mhob man...pysgodyn amrwd cyfan i frecwast!
Ond y nwdls, tempura a'r bwyd môr yn lyyyyyfli, a phrofiadau bwyta fel y seremoni dê draddodiadol a phrydau Teppanyaki (lle ma nhw'n coginio cynhwysion o dy ddewis di o dy flaen di ar hot-plate math-o-beth) yn wych hefyd.

Cer, cwic!!

PostioPostiwyd: Gwe 07 Gor 2006 8:56 am
gan blanced_oren
Llefenni a ddywedodd:Blanced bach, ti'n seren! Dwidi bod am ddysgu'r iaith ers dipyn, achos dwi'm llawer o ffan o swanio fewn yn disgwyl i bawb siarad Saesneg :x

Yr Hydref yn apelio, am y tywydd llai poeth, a'r gwyliau a lliwiau. Oedd y gost yn arswydys tybed?


Doedd fy nghostau ddim yn ofnadwy ond ro'n i'n ffodus i gael aros 'da ffrind. Tales i tua £550 am y ffleits yn STA Travel yng Nghaerdydd - mae 'na un cyferbyn a'r castell. Hedfanais o Gatwick i Amsterdam ac wedyn Amsterdam i Osaka gyda KLM OND mae'n bosib i fynd yn syth o Gaerdydd i Amsterdam a fyddai'n haws o bosib.

Mae'n bosibl i fwyta'n ddigon rhad - mae'r pethau reis/madarch sydd ar gael yn y siopau bwyd bach yn lyfli.

Ac wrth gwrs mae'n lle dda i brynu pethau electronig, a CDs (prynais i un Gorkys hyd yn oed).

PostioPostiwyd: Llun 10 Gor 2006 2:39 pm
gan Y Crochenydd
Es i i Tokyo i ymweld a ffrind oedd yn dysgu Saesneg yna ryw chwe mlynedd yn ol. Mae'n ddinas wych; o'r tyrfaoedd a'r goleuadau lliwgar yn Shinjuku a Shibuya, y pobol ifanc 'uder-trendy' yn Harajuku, awyrgylch cool yn Shimokitazawa, siopau eletronic yn Akihabara ac awyrgylch mwy 'traddodiadol' Asakusa a teml Sensoji a parciau fel Ueno. Dwi'n teimlo fel dal awyren nol wrth feddwl am y lle!

Mae'r bwyd yn hyfryd ac yn amrywiol iawn - dim ond unwaith blasais rywbeth o'n i ddim yn rili hoffi (eirinen hallt o'r enw umerboshi. Ych!).

Os wyt ti'n adnabod rhywyn sy'n adnabod rhywyn sy'n byw yna, mynna rhif ffon neu gyfeiriad ebost. Nes i llwyth o ffrindiau newydd ac roedd y merched i gyd am fynd ar 'ddet' gyda'r Gaijan olygus(!) oedd yn ymweld a'u dinas. Mae merched Tokyo yn cwl uffernol ac wrth eu boddau yn gwneud ffrindiau a dangos ymwelwyr o gwmpas.

Es i dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, felly roedd na loads o bartion a stwff i fynychu, ond taswn i'n mynd eto, mi faswn i'n dewis y gwanwyn er mwyn gweld y coed ceirios yn bwrw blagur. Mae gan Tokyo popeth y baset ti eisiau mewn dinas fodern, er ei fod e braidd yn ddrud hefyd!

Siapan

PostioPostiwyd: Maw 18 Gor 2006 9:48 am
gan Llo Cnaf Id
Es i i Siapan y Medi dwytha, i rannol fynd ar drip twristaidd a'n rhannol i ymweld a nghefnder sydd yn gweithio lawr yn De. "Whistle-stop" oedd fy ngwylia yno, ond mi fues i Tokyo, 'namlwg, a mae werth treulio dau/dridia 'no yn crwydro o gwmpas jyst yn gweld beth sydd ar gael. Mae o mor wahanol mewn gymaint o ffyrdd i be 'da ni wedi arfar efo fo, mae hynna'n ddigon o brofiad yn ei hun. Trio brawddega Siapaniaidd allan i ffindio dy ffordd o gwmpas, mynd i'r llefydd bwyta a bod yn hollol puzzled efo'r fwydlen a'r traddodiadau, mynd i'r temlau a'r shreiniau bychain (a mawrion), mynd i'r farchnadoedd lle mae'r "hawkers" yn gwisgo crys a thei ac maer'r taflenni hysbysebu ma nhw'n dolio allan ar ffurf gwyntyll i chdi gael chywthu'r gwres o dy wynab. Hei, nes i hydnod fynd i weld ffilm (ffantasi i blant) mewn Siapanieg, oedd yn ddigon ffecin swreal yn ei hun.

Es i hefyd i Kyoto, sydd efo ardaloedd mwy traddodiadol--dos i Gion, sydd efo siopau bach mewn llwybrau troellog, lle mae certiau yn mynd a chdi o gwmpas yn cael i tynnu gan ddynion a choesa cryfion. Dos itr Saijusengendo (duwarth dwi di camsillafu hwnna go siwr), sydd, os cofia, yn neuadd hir bren gyda 1000 o ddelwau aur o Bwda oddi mewn, bob un chydig bach yn wahanol i'r llall. O ia, a dos i'r palas aur, dw i ddim yn cofio'r enw Siapanieg amdano, ond mae o yn dy thri llawr wedi ei ddecio ag aur, ar gyfyl llyn hollol wydraidd ac mewn coedlan dawel. Hyfryd.

Es i hefyd i Osaka, am ymweliad hedfannol, a mae'r castell ("Osaka Jo") yno yn werth i weld, er mai a) ailadeiladiad ydy o, dim byd gwreiddiol, a b) tu mewn maer o jyst yn breeze blocks ac arddangosfeydd, gresyn). Yn y dre yma cysgais i mewn capsiwl hefyd--mae o'n uffar o od, ac mi gymris i ejys i weithio allan lle roedd y swits golau, ond mae o mor unigryw i Siapan mae o'n werth i ti drio fo--am un noson, wrth gwrs.

Wedyn mi dreuliais i amser yn Kagoshima, sydd yn y De o Kyushu, yn aros efo nghefndar. Prif atyniad Kag ydy bod na losgfynydd ac tif yn y mor gerllaw, sydd yn poeri huddugl i'r awyr yn dragywydd. Yma naethon nhw ffilmio diweddglo You Only Live Twice, dontcha know. Gefais i brofiad gwych yn Kag, gan fod gen i rywun gyda mi oedd yn nabod yr ardal, ac yn mynd a fi i weld llefydd ac i neud petha nad ydy'r twrist yn gwybod amdanynt. Y bariau dirgel lle mae £7 yn cael i ti gymaint o gwrw a ti'n gallu yfad mewn dwyawr, neu'r llefydd bwyta sydd seis cwpwrdd a lle mae nhw'n rhoi octopws wedi gyri-o mewn batyr a saws Soy--rhyfedd ond diddorol tu hwnt. Fel dudodd rhywun yn uchod, dyma ffordd wych o weld gwlad dramor--trio ffindio rhywun sy'n nabod y lle. Ond mae crwydro ben dy hun mewn lle newydd hefyd yn brofiad anhygoel, ac yn dod a rhyw deimlad arbennig--i fi, o leia.

Bob lwc i ti os ti'n mynd! Uffan o le.