Tudalen 1 o 1

Yr Eidal

PostioPostiwyd: Maw 18 Gor 2006 10:07 am
gan Dwlwen
Hwre - dwi'n mynd allan i'r Eidal i wirfoddli yn ninas Matera am fis yn yr hydref (trwy gynllun cyfnewid UNA.) Os oes 'na rhywun wedi bod i'r ardal, 'sen i'n dwli clywed mwy. Wy'n ystyried hedfan o Fryste i Rhufain, ac yna teithio lawr i Basilicata - 'se unrhyw tips ar hynny'n lyfli hefyd.

PostioPostiwyd: Maw 18 Gor 2006 10:45 am
gan Creyr y Nos
Ma Matera yn edrych yn lysh, ma 'na lun o'r lle yn yr adran ddaearyddaieth yn Aber, - yr hen ddarn o'r dre wedi cerfio allan o'r creigiau bron. Hefyd, randomly, nes i gwrdd a merch o Matera mewn tafarn yng Nghaerfyrddin sy nawr yn gwitho i'r Cyngor Sir, odd hi'n gweud bod y lle'n lysh fyd. Rhyfedd o fyd!

Besicli - ti'n lwcus iawn!!

PostioPostiwyd: Gwe 29 Medi 2006 12:20 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Oes cyngor gan unrhyw un am rywle rhad i aros yn y Ddinas Dragwyddol?