Falle mod i rhy hwyr yn barod i'r rhai ohonoch sydd lawr yn y Steddfod yn barod, ond pwrpas yr edefyn yw i estyn croeso cynnes i bentre Felindre. Milltir a hanner bant o Maes B ond cyfle gwych i ddod i nabod cymeriad a naws Cymraeg yr ardal ochr draw i dre!
Yn ystod eich ymweliad fe allwch chi :-
- Twlu cerrig mewn i'r afon *
- Defnyddio adnoddau lleol e.e. teleffon cyhoeddus **
- Jyst hango rownd canol y pentre a rhegi ***
(O.N. * Fydd rhaid chi ddod a'ch cerrig eich hunan gyda chi achos mae prinder mawr ers i'r siop gerrig gau lawr.
** Dyw'r teleffon ddim yn gweithio
*** Plis peidiwch)
Onibai ni dewch lan i Dafarn y Shepherds i gal gwd sesh fel pawb arall
Croeso i bawb !