Tudalen 1 o 1

Felindre ger Steddfod 2006

PostioPostiwyd: Llun 07 Awst 2006 3:00 pm
gan Jams
Falle mod i rhy hwyr yn barod i'r rhai ohonoch sydd lawr yn y Steddfod yn barod, ond pwrpas yr edefyn yw i estyn croeso cynnes i bentre Felindre. Milltir a hanner bant o Maes B ond cyfle gwych i ddod i nabod cymeriad a naws Cymraeg yr ardal ochr draw i dre!

Yn ystod eich ymweliad fe allwch chi :-

- Twlu cerrig mewn i'r afon *
- Defnyddio adnoddau lleol e.e. teleffon cyhoeddus **
- Jyst hango rownd canol y pentre a rhegi ***

(O.N. * Fydd rhaid chi ddod a'ch cerrig eich hunan gyda chi achos mae prinder mawr ers i'r siop gerrig gau lawr.
** Dyw'r teleffon ddim yn gweithio
*** Plis peidiwch)

Onibai ni dewch lan i Dafarn y Shepherds i gal gwd sesh fel pawb arall :winc:

Croeso i bawb ! :D

PostioPostiwyd: Maw 08 Awst 2006 2:02 pm
gan Jams
Peidiwch a gyd a dod ar yr un amser da chi! :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 08 Awst 2006 3:40 pm
gan Rhys
Petai rhywun ar y maes neu yn gwersylla yn Glamorgan Arms a ffansi newid awyrgylch, beth/sut fyddai'r ffordd hawsa i gyrraedd Y Shephards? (gan gofio fydd pawb unai'n pissed neu eisiau bod yn pissed reit sydyn)

PostioPostiwyd: Mer 09 Awst 2006 8:12 am
gan Jams
oohhh pynters! :winc:

Ffordd gorau i ddod o hyd i'r lle yw mynd lan o'r Glam hyd at y Maes ar y bysus swyddogol. Yn lle troi mewn i'r maes ma rhaid mynd rownd i ail dyrnoff a dilyn yr hewl lan am tua 1.8 milltir (hanner awr wrth gerdded) a ma popeth wedi arwyddo o fynna. Onibai ni ma na rhai bysys yn rhedeg o'r Maes i'r pentre am tua 2 a 6 y prynhawn (gwerth cadarnhau hyn yn y swyddfa gwybodaeth ar y Maes!). Onibai hynny ma na ddigon o dacsis ar gael i fynd nol at y Maes / Barons / Glam! :D