Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 12:13 pm
gan S.W.
Dwi a'r wraig yn meddwl mynd yma yn mis Medi. Lle neis felly ar gyfer cwpwl i fynd? Neu ydy o fwy ar gyfer cefnogwyr peldroed / criw o hogie ayyb?

Oes ne westai neis yno i'w awgrymu? 4 seren efallai?

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 10:55 pm
gan Geraint Edwards
Fues i yn Riga ym mis Ionawr eleni, yng nghanol yr eira. Mae'n ddinas hyfryd a fforddiadwy. 'Roeddwn i'n aros yn Franks hefyd, digwydd bod, hostel plaen ond cyfeillgar tu hwnt.

Rhai llefydd da i fynd iddynt:
    - "Museum of the Occupation of Latvia": cytuno efo Gary Pritch, amgueddfa diddorol, a rownd y gornel o hostel Franks. Mae ymweliad yn hanfodol os am werthfawrogi hanes diweddar y wlad.
    - Y "Skyline Bar", ar lawr ucha gwesty Reval Riga: bar coctels gyda golygfeydd o'r ddinas. Smart.
    - Taith Bws o Riga: ffordd dda o ddod i wybod yn sydyn am drawstoriad eang o'r ddinas; tua awr a hanner o hyd o daith, mae bysiau yn gadael wrth Cofgolofn y Reifflwyr Coch tua amser cinio bod dydd.

PostioPostiwyd: Llun 13 Awst 2007 7:40 am
gan S.W.
- Y "Skyline Bar", ar lawr ucha gwesty Reval Riga: bar coctels gyda golygfeydd o'r ddinas. Smart.


Yn y gwesty yma ni'n meddwl aros. Oedd on edrych fel lle neis?

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 10:30 am
gan Jamie
Treuliais innau a'm teulu gyfnod yn Riga yn gynharach eleni.

Mae'r hen dref yn eithriadol hardd a'r eglwys gadeiriol yn haeddu ymweliad hwy na'r awr fer gawsom i'w dreulio yno. Cytunaf gyda Gary a Geraint am werth yr amgueddfa 'occupation of Latvia', ac mae sawl un arall hefyd yn haeddu ymweliadau, fel yr un awyr agored a'r amgueddfa rhyfel. Hanes diddorol, a chymleth, iawn i'r ddinas hon.

Yn anffodus, anodd fyddai i mi wneud sylw am y merched :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 1:07 pm
gan S.W.
Ni'n hedfan allan yno dydd Llun nesa tan ddydd Gwener. Edrych ymlaen!

PostioPostiwyd: Sul 09 Medi 2007 1:34 pm
gan S.W.
Wedi dod nol o Riga. Dinas neis iawn dros ben. Roedden ni'n aros yn y gwesty oedd hefo'r Sky Bar. Oedd o werth mynd yno, am yr olygfa.

Cwrw neis, bwyd digon neis.

Dylanwad Ewropeaidd gref ar y lle - bwyd ac adeiladau'n bennaf. Dim gymaint o ddylanwad Rwsiaidd ag y byddwn wedi ei ddisgwyl i fod yn onest. Y wlad yn sicr yn edrych llawer mwy tuag at y Gorllewin nag at ei chyn meitri drws nesa. Dinas celfyddydol iawn.

Byddwn yn sicr awgrymu'r lle i unrhyw un, a'r Amgueddfa ar Occupation yn sicr werth ymweld ag o - a rhad ac am ddim hefyd!

Dreifars hollol nyts though!