Newydd ddod nol o wylie yn Llydaw.
Eson ni draw i'r wyl Geltaidd yn Lorient - stori arall yw honna - ond am un diwrnod ethon ni o amgylch canol Llydaw.
Wedodd ffrind i fi fod yn rhaid i ni fynd i Huelgoad a mynd am y dafarn yma oedd mewn pentref gerllaw.
Felly mi ethon ni i Huelgoad a ffeindio'n ffordd oddi yno i bentref Plouye, tua 8km i ffwrdd.
Welo ni'r dafarn fach yma yn syth.
Odd banner y ddraig yn hongian yn bert tu fas iddo fe. Hefyd yn sefyll tu fas odd na fan werdd gyda sticeri Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith a phob math o bethe cenedlaetholgar Cymreig erill.
O fynd mewn ma'r bachan ma yn bloeddio siarad gyda ni yn gofyn o ble oedden ni wedi teithio, a medde ni Cymru, ac ynte wedyn a llond pen o Gymrag!
Bachan o'r enw Bernard Walters o Ferthyr odd y gwr oedd wedi symud mas i Lydaw 27 mlynedd yn ol, a fe odd berchen y dafarn yma 'Tavarn Ty Elise'. Odd e'n gyn ymgeisydd i Blaid Cymru yn ward Penderyn.
Wel mi arhoson ni am dipyn i yfed y Coreff (odd y rhai Stowt, Amber, a Rouge yn odidog, ond ges i ddim amser i flasu'r gweddill), cyn bo ni'n gorfod gadel am Fez Noz yn Carhaix.
Ma'n siwr bod eraill o'r Maes wedi dod ar draws Bern yn Nhy Elise.
Unrhyw straeon wrth eraill?
Bydden i'n argymell pobl i daro ymweliad os y'ch chi yn yr ardal.
Dyma fe Bern yn ei dafarn: