Dwnim lle i rhoi'r edefyn yma. Mae trafnidiaeth yn grwydro felly driai fama
Bore ma wrth fynd i'r gwaith roeddwn tu-ol gerbyd efo sticer Cymru ddraig goch ar un ochr, plat car efo llythyrennau od a sticer arall undeb Ewropeaidd, roeddwn yn tybio mai NL oedd o ar y sticer baner Ewrop sef yr Iseldiroedd ond wrth graffu gwelais mai VL oedd o.
Crafais fy mhen am chydig yn meddwl pa wlad Ewropeaidd y fyddai VL yn cynrychioli(Meddyliais mai Liechentstein oedd o Vichy of Liechenstein neu rwbath, mi fuasai hynny wedi bod yn cwl gan mai mond 33,000 sydd yn byw yno).
Beth bynnag nes i gwglo a mynd ar wikipedia a darganfyddais mai sir yn Rwmania ydi hi http://en.wikipedia.org/wiki/Romanian_car_number_plates
Dau beth sydd yn od am hyn, dydi Rwmania heb ymuno ar U.E eto a doeddwn ddim yn ymwybodol fod siroedd ac ardaloedd o fewn gwlad yn cael ei arddangos.
Rhywun arall wedi gweld platiau ceir anghyffredin yn ddiweddar