Tudalen 1 o 1

Passbort i Jersey?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Awst 2006 1:06 pm
gan dave drych
Reit, dwi'n goro mynd i Jersey am ryw wythnos diwedd mis Medi a mae fy mhasport wedi dod i ben. Oes angen passport arnai neu allai fynd yn ddi-drafferth efo driver's licence?

Dwi di bod yn chwilio am atebion ar y we - mae rhai yn deud bod angen passbort arnai ond eraill yn deud i'r gwrthwyneb. (Myfyriwr tlawd ydwi, a dwi'm isho talu am bassport newydd os nad oes rhaid imi)

PostioPostiwyd: Gwe 11 Awst 2006 2:33 pm
gan Fatbob
Ma costie pasport yn codi o £51 i £66 o ddiwedd mis nesa, felly os oes isie pasport arno ti, nawr yw'r amser i sorto fe mas.

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 9:51 pm
gan Sioned yr Angel
Mi es i i Guernsey ryw flwyddyn yn ol a does dim angen pasbort i fynd i fana, mi wneith trwydded gyrru yn iawn. Felly mi fyswn i'n meddwl bod yr un peth yn wir ar gyfer trafeilio i Jersey?

PostioPostiwyd: Mer 06 Medi 2006 11:16 pm
gan Norman
Hedfan ti ? - Wrach bo nhw fwy strict bellach ? "Photo ID" mae nhwn ddeud sydd angen i hwylio i Werddon - os ydi hynny'n helpu!