Ddim i Belly's esh i (dwi'm yn meddwl beth bynnag) ond i dafarn ar Stryd Vitastigur ddim yn bell o'r Eglwys Gadeiriol (ac ar gornel). Mae merch y ddynes sy berchen y lle, Gunnva, yn gantores opera ac yn dipyn o rafin. Mi dreulion ni drwy'r nos efo hi yn yfed Brennivin.
Ia, o'n i'n ama y byddai'r Blue Lagoon yn gachu ond i'r gwrthwyneb. Ond i lwyr fwynhau'r profiad, mae nhw'n dweud y dylet ti fynd yno pan mae dy wallt di'n rhewi yn yr oerfel a'r dwr yn berwedig braf. Paid a phrynu'r eli gwynab a'r lol BLUE LAGOON sy ar werth yn y siop ar y ffordd allan (crocbris) ond defnyddia dipyn o'r moisturizer o un o'r testers ar y ffordd allan...!