gan Jon Bon Jela » Sad 19 Awst 2006 7:09 pm
Gallaf. Newydd ddychwelyd o Wlad yr Ia ar ol treulio mis yno.
Mae Reykjavik yn mwynhau statws byd-eang fel tref parti mwyaf a byd, ac mae hyn yn wir i ryw raddau oherwydd cei di ddim nos Wener fwy bywiog unrhyw le arall ac mae'r Islandwyr yn gwybod sut mae partia. Ond yn anffodus, ychydig sydd gyda'r ddinas i gynnig ac mae hi'n uffernol o ddrud yna.
Dyma rai prisiau bar:
Peint o gwrw: £4.20
Barcadi Breezer: £8.50
Double Vodka a coke: £14
Ond paid, da ti, treulio mwy nag wythnos yno - yn enwedig nawr fod yr haf yn dod i ben. Buon ni yna yn ystod mis 'prysuraf' calendr Gwlad yr Ia, a doedd neb yna. Wir i ti. Dim syndod unwaith i chi ystyried mai ond 285,000 o bobl sydd yn y wlad i gyd.
Cer am benwythnos, neu bedwar diwrnod ar y mwyaf. Bu i mi fwcio hediad cynnar yn ol i Brydain oherwydd roeddwn i wedi diflasu ar y lle. Ond wedi dweud hynny, mae'n le bach ciwt, ond mae hyd yn oed Abertawe yn fwy o brofiad na phrifddinas y wlad hon.
Stori gwahnol yw gweddill y wlad - gallwn i fod wedi treulio 6 mis yn mynydda ac yn gwirioni yn y tirwedd hollol ddisymwth. Ond sicrha bod gyda ti'r arian yn gyntaf.
Gobeithio bod hyn wedi bod yn help!
JBJ
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!