Gwlad yr Iâ...Reykjavik

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwlad yr Iâ...Reykjavik

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 5:20 pm

All unrhywun sôn am Reykjavik o brofiad wrtha i?!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 19 Awst 2006 7:09 pm

Gallaf. Newydd ddychwelyd o Wlad yr Ia ar ol treulio mis yno.

Mae Reykjavik yn mwynhau statws byd-eang fel tref parti mwyaf a byd, ac mae hyn yn wir i ryw raddau oherwydd cei di ddim nos Wener fwy bywiog unrhyw le arall ac mae'r Islandwyr yn gwybod sut mae partia. Ond yn anffodus, ychydig sydd gyda'r ddinas i gynnig ac mae hi'n uffernol o ddrud yna.

Dyma rai prisiau bar:

Peint o gwrw: £4.20
Barcadi Breezer: £8.50
Double Vodka a coke: £14

Ond paid, da ti, treulio mwy nag wythnos yno - yn enwedig nawr fod yr haf yn dod i ben. Buon ni yna yn ystod mis 'prysuraf' calendr Gwlad yr Ia, a doedd neb yna. Wir i ti. Dim syndod unwaith i chi ystyried mai ond 285,000 o bobl sydd yn y wlad i gyd.

Cer am benwythnos, neu bedwar diwrnod ar y mwyaf. Bu i mi fwcio hediad cynnar yn ol i Brydain oherwydd roeddwn i wedi diflasu ar y lle. Ond wedi dweud hynny, mae'n le bach ciwt, ond mae hyd yn oed Abertawe yn fwy o brofiad na phrifddinas y wlad hon.

Stori gwahnol yw gweddill y wlad - gallwn i fod wedi treulio 6 mis yn mynydda ac yn gwirioni yn y tirwedd hollol ddisymwth. Ond sicrha bod gyda ti'r arian yn gyntaf.

Gobeithio bod hyn wedi bod yn help!

JBJ
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 7:14 pm

Diolch JBJ. Ystyried mynd o ddydd Sul-Gwener, neu Llun-Gwener oeddwn i (sydd yn 4 diwrnod cyfan ar y mwya).

O'n i'n ymwybodol ei bod yn wlad reit ddrud, ond ydi bwyd yn ddrud yno hefyd??
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 7:17 pm

Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 19 Awst 2006 7:25 pm

Mae prisiau bwyd yn waeth! Krona Islandeg yw arian y wlad ac ar hyn o bryd mae'n 133Kr i £1, ac yn 100Kr i €1.

Dyma restr o beth fyddi di'n talu mewn gwahanol fathau o fwytai

Bwyty crand: €45 am un pryd o fwyd i un person (dim malu)

Bwyty llai crand:€30 am un pryd o fwyd i un person

Bwyty arferol: €20 am un pryd, ond mae rhai 'deals' da i'w cael, ond yn dal yn fwy na'r DU

Pylsur: (Islandeg am Selsgwn) Dim ond rhyw €2. Mae'r rhain yn boblogaidd iawn ymhlith pobl oherwydd eu bod yn rhad, ac mae'n nhw wedi eu gwneud o gig oen yn hytrach nag offal.

Yn wir, mae hyd yn oed pobl yr Ynys ond yn bwyta mas ar achlysuron arbennig hefyd oherwydd ei bod hi'n rhy ddrud. Pan aethon ni am bryd o fwyd mewn bwyty, dim ond twristiaid oedd o'n cwmpas.

Ond mae'n rhaid i ti drio'r pysgol os ei di - pur, dim cemegion ac yn flasus tu hwnt.

Gobeithio sa i wedi suro dy obeithion, ond paid disgwyl gormod wrth yr Ynys. Mae pobl Islandeg yn neis, ond braidd yn hallt.

Pob hwyl i ti ar dy daith!
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 19 Awst 2006 7:30 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:A be' fysa ti'n feddwl o'r trip yma?


Rip off pur. Dyw nhw ddim hyd yn oed yn cynnwys Thingvellir!

Peth gorau i ti wneud fydd rhentu car dy hun am benwythnos (digon rhesymol nawr bod y cyfnod twristaidd drosodd) a mynd yno dy hun. MAe nhw wir yn casho mewn ar dwristiaid fel rydyn ni'n gwneud yng Nghymru.

Jest cofia mynd a dy got law!
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 7:44 pm

Dyna o'n i'n ama, ond dwi'misho mynd a pheidio mynd allan o'r ddinas o gwbl (achos a'i ddim yno eto, mae'n debyg) - ond ti'n meddwl fod mynd i Thingvellir yn bosib/ddoeth ym mis Tachwedd? (Dim gweld bai ar dy awgrym di ydw i - dwi'n gwybod nesa peth i ddim...a jysd isho gneud yn siwr!)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 19 Awst 2006 7:59 pm

Mae prisiau'r wlad yn gostwng 40% ar ol mis Medi. Mae'n bosib i ti fynd, (ac os ei di ddigon i'r gogledd, cei di weld y northern lights hefyd!)

Dim ond dwy awr o heulwen a geir yng Nglwad yr Iau yn ystod y gaeaf, cofia...
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 8:07 pm

Newyddion da! :) (Y prisiau, nid y golau :? )

Diolch 'ti was
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 19 Awst 2006 8:31 pm

Dwi'n gwybod nad wyt ti am gymeradwyo hyn (!), ond ti'n meddwl fod hwn yn well? Gan mai 'once in a lifetime' experience fydd o, dwisho gneud yn siwr mod i ddim yn garcharor o fewn y ddinas am y 4 dwrnod y bydda i yno!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron