Gwlad yr Ia yn le hyfryd rhaid imi ddweud, Fues i yno am wyliau gyda'r teulu yn ol yn 1994 a 1996. Dyma rai o uchafbwyntiau fy nheithiau i bryd hynny:
Reykjavik
- Ymweld â chanolfan "The Volcano Show", sydd reit yng nghanol y ddinas. Dwn i ddim os yw hwn yn dal i fynd, ond roedd gan y perchennog (a oedd yn ddaearegwr o ran galwedigaeth) sinema ei hun lle chwaraeai ffilmiau yn adrodd hynt a helynt llosgfnyddoedd yr ynys. Roedd o wedi recordio lot o'r stwff ei hun mae'n debyg. Yn wir, oherwydd natur ei waith, mi fyddai'n rhybuddio'r ymwelwyr y byddai rhaid iddo fo ei hun adael yr adeilad ar unwaith petai llosgfynydd yn rhywle ar yr ynys ar fin echdori - er mwyn ei recordio!
- Canolfan Arbaer, ateb Gwlad yr Ia i Sain Ffagan! Yng nghanol maestrefi dwyreiniol y ddinas, saif yr amgueddfa awyr agored hon yn gofnod da o hanes bywyd gwerinol yr ynys tan yn ddiweddar iawn. Ac fel Sain Ffagan, ceir yma adeiladau a adleoliwyd yno o wahanol rannau o'r wlad. Os yw'r tywydd yn braf, mae fan hyn yn sicr o'ch plesio.
De Orllewin/Penrhyn Reykjanes
- Y "Blue Lagoon", neu'r Blaa Lonid mewn Islandeg, yn nhref Grindavik. Y pwll nofio enwocaf yng ngwledydd Llychlyn, heb os. Saif y pwll yma drws nesaf i waith swlffwr (dwi'n meddwl), sydd yn pwmpio allan dwr naturiol boeth o'r ddaear fel rhan o'r broses diwydiannol. Beth bynnag, mae'r dwr yn gynnes braf ac mewn lliw glas golau fflworesent. Y mae'r dwr hefyd yn llawn halwynau sydd yn gwella problemau croen megis psoriasis ac ecsema, fel y Mor Marw yn Israel.
- Thingvellir, ateb Gwlad yr Ia i Fachynlleth o bosib. Tua awran i'r dwyrain o'r brifddinas, hwn yw safle traddodiadol senedd-dy'r wlad, sef yr "Althing". Ceir hanes hir i'r Althing, sydd yn deillio'n ôl i'r oesoedd canol ac yn enwog am fod y corff democrataidd seneddol hynaf yn y byd.
Y Gogledd
- Fy atgof orau o'r gogledd yw ymweld a Myvatn - yn llythrennol "llyn y gwybaid". Y mae'r llyn hon ar blateau yng ngogledd ddwyrain yr ynys ac yn cael tywydd eithriadol o sych a chynnes yn ystod yr haf, diolch i gysgod glaw y mynyddoedd yng nghanol yr ynys. O fan hyn, gallwch fynd am gefn beic rownd y llyn, ymweld a phwerdai geothermal sydd yn cyflenwi trydan y wlad, hyd yn oed mynd ar fws 4x4 i ganol anial yr ynys.
Gallwn fynd ymlaen eto am gryn dipyn, ond mi wna'i ddarfod yn fanna. Mae'n siwr bod y lle wedi newid cryn dipyn mewn deng mlynedd, ond mi fetiaf bod y llefydd 'dwi di restru uchod dal yn atyniadau poblogaidd. Mae Gwlad yr Ia yn le llawn llefydd a phobl diddorol. Efallai bod y gost yn mynd yn erbyn y lle braidd, ond ar y cyfan ni chewch chi mo'ch siomi.