Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 12:52 am
gan Tegwared ap Seion
Waw. Sdyning.

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 12:31 pm
gan Beti
Dwisho mynd. :crio:

Ond oes 'na rywun sy'n gwbod am rywun sy'n siarad Islandeg? Hmmmm? Mae bywyd yn iawn a wedyn dwi'n cofio bo fi angen ffeindio rhywun sy'n siarad Islandeg!

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 1:55 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Beti a ddywedodd:Dwisho mynd. :crio:

Ond oes 'na rywun sy'n gwbod am rywun sy'n siarad Islandeg? Hmmmm? Mae bywyd yn iawn a wedyn dwi'n cofio bo fi angen ffeindio rhywun sy'n siarad Islandeg!


Ffrind i ffrind y Dyn yn dod o ogledd y wlad, ac yn gweithio i gwmni cartwn yma yng Nghaerdydd...(Cnex os 'dwi'n cofio'n iawn). Sori, dwi ddim yn cofio'i henw hi, ond go brin fod 'na ddwy (ac os oes 'na, hydynoed gwell ynde?!) - hola swyddfa Cnex lle bynnag ma honno :winc:

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 2:36 pm
gan Jon Bon Jela
Beti a ddywedodd:Dwisho mynd. :crio:

Ond oes 'na rywun sy'n gwbod am rywun sy'n siarad Islandeg? Hmmmm? Mae bywyd yn iawn a wedyn dwi'n cofio bo fi angen ffeindio rhywun sy'n siarad Islandeg!


Fe fues i'n dysgu!

Iaith bert iawn.

"Thetta er pylsur minn!"

(Dyna fy selsgi i!)

PostioPostiwyd: Maw 07 Tach 2006 2:37 pm
gan Beti
Diolch yn dew.
Dwi di deud o sawl gwaith ac mi eda i eto, da 'di carafanio!

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 9:02 am
gan S.W.
Oes unrhyw rhai'n gwbod am flights rhad i'r wlad hon o Lerpwl neu Manceinion ar gyfer mis Medi?

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 1:47 pm
gan huwwaters
S.W. a ddywedodd:Oes unrhyw rhai'n gwbod am flights rhad i'r wlad hon o Lerpwl neu Manceinion ar gyfer mis Medi?


Dwi'm yn meddwl fedri di gael yn rhad iawn i Gwlad yr Iâ, ond un gwasanaeth (bosib yr unig un?) yw Iceland Express. Dim ond yn hedfan o Llunden yn unig.

http://www.icelandexpress.com/

Holiad cyflym am 1 oedolyn yn fflio allan o Lunden i Reykjavik ac yn ôl yn costio £204, sy'n cynnwys popeth gan gynnwys trethi ac yn mynd ar 01/09/07 a dod yn ôl 08/09/07.

Ma blog y cwmni yn ddiddorol iawn hefyd:

http://blog.icelandexpress.com/

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 5:30 pm
gan Fflamingo gwyrdd
O Lundain hedfanon ni, a chostiodd o ddim hanner gymaint â hynna.

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 8:26 pm
gan Jon Bon Jela
Beth bynnag ti'n 'neud - PAID â mynd gydag Icelandair - y cwmni hedfan GWAETHAF ar y ddaear.