Tudalen 1 o 4
Nos Wener yng Nghaerdydd
Postiwyd:
Maw 22 Awst 2006 7:38 pm
gan Dafydd ab Iago
Dw i'n mynd yn ol i Frwsel ar ol dau fis ar y cwrs wlpan (cwrs uwch a dweud y gwir).
Dwi'n aros dros nos wener 'ma yng Nghaerdydd. Y tro cyntaf ers ddeng mlynedd dwi'n meddwl...
Unrhyw syniadau beth i'w neud nos wener (a siarad Cymraeg)?
Diolch
Dafydd
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 8:23 am
gan Rhys
Tafarn y mochyn Du yw'r unig le lle ti'n guaranteed o weld/clywed siaradwyr Cymraeg. Mae'r staff i gyd mwy neu lai'n siarad Cymraeg, ac ar y penwythnos mae canran uchel o'r pyntars yn siarad Cymraeg hefyd.
Mae'r dafarn yng Ngerddi Soffia ar waelod Cathedral Road.
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 8:37 am
gan mam y mwnci
Cytuno! Mae criw clwb rygbi Caerdydd yn yfed yna - ac un ohonynt newydd symud yn nol i Gymru ar ol treulio blwydyn ym mrwsel. Dwi ddim yn gwybod faint ydi dy oed di ond mae'r cliontele yn dueddol o fod yn eu 30au a fyny yn y Mochyn du.
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 8:48 am
gan Ray Diota
mam y mwnci a ddywedodd:Cytuno! Mae criw clwb rygbi Caerdydd yn yfed yna - ac un ohonynt newydd symud yn nol i Gymru ar ol treulio blwydyn ym mrwsel. Dwi ddim yn gwybod faint ydi dy oed di ond mae'r cliontele yn dueddol o fod yn eu 30au a fyny yn y Mochyn du.
Ieie, 'na ni. Ma'n iawn os ti'n fforti.
Ffwcio'r Mochyn Du, ma fe fel yfed mewn Harvester...
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 8:52 am
gan mam y mwnci
Ray Diota a ddywedodd:mam y mwnci a ddywedodd:Cytuno! Mae criw clwb rygbi Caerdydd yn yfed yna - ac un ohonynt newydd symud yn nol i Gymru ar ol treulio blwydyn ym mrwsel. Dwi ddim yn gwybod faint ydi dy oed di ond mae'r cliontele yn dueddol o fod yn eu 30au a fyny yn y Mochyn du.
Ieie, 'na ni. Ma'n iawn os ti'n fforti.
Ffwcio'r Mochyn Du, ma fe fel yfed mewn Harvester...
"Helo sir, have you ever been to a harvester before
?"
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 9:47 am
gan Cymro13
Ma Dempseys a Callaghans yn dda fel arfer ar nos Wener os ti moen mynd rhywle ar ol
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 9:54 am
gan Ray Diota
Rhys a ddywedodd:Tafarn y mochyn Du yw'r unig le lle ti'n guaranteed o weld/clywed siaradwyr Cymraeg.
Ma hyn yn bollocks dyddie 'ma... guaranteed y clywi di Gymraeg (gogs yn bennaf, gwaetha'r modd
) yn Cornwall, Grangetown... ffacinel, ma'r jawled yn bobman erbyn hyn, gweud gwir... ffacin taffs.
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 10:50 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Cer draw i dy Ray a'i fam. Ti'n siwr o brofi coethni ieithyddol fel mochyn a penis.
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 11:03 am
gan Ray Diota
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Cer draw i dy Ray a'i fam. Ti'n siwr o brofi coethni ieithyddol fel mochyn a penis.
Neu cer i'r mochyn du i wrando ar jocs gwych gwahanglwyf ac i wylio fe'n trio cal 'i wep yn siot y boi sy'n ffilmo Chris Cope...
Postiwyd:
Mer 23 Awst 2006 11:30 am
gan Geraint
Dwi ddim yn rhy hoff o'r Mochyn Du, mae'n teimlo fel fod pawb yn eistedd na'n smyg "dwi'n siarad Cymraeg dwi' yn"......"drych dyna xxxxxxxx o fobl y cwm!"........... "dwi'n mynd i'r bar i ordro peint yn Gymraeg!!!!!"