Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:31 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ray Diota a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Cer draw i dy Ray a'i fam. Ti'n siwr o brofi coethni ieithyddol fel mochyn a penis.


Neu cer i'r mochyn du i wrando ar jocs gwych gwahanglwyf ac i wylio fe'n trio cal 'i wep yn siot y boi sy'n ffilmo Chris Cope... :rolio:


Sori, ti braidd yn sensitif am regi diddiwedd dy fam, ond wyt? Ymddiheuriadau, Ray bach.

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:34 am
gan Dwlwen
Ma Chapter yn Nhreganna (tua 4 stop lawr Heol ddwyreiniol y Bontfaen) yn hwyl ar nos Wener a nos Sadwrn a nos Sul a nos Lun a nos Fawrth a nos... Gei di bryd o fwyd neis a jyst abowt pa bynag gwrw fynni di. Dyw e ddim yn le 'Cymraeg' ar y cyfryw, ond fydd 'na Gymry rownd y lle... Digon agos i ti bicio draw i'r Mochyn os ti mo'yn sing-song rownd y joanna...

Os mai bwyd da yw dy fag - ma'r Armless Dragon yn 'neud stwff gourmet Cymraeg (ond dwy erioed di'i brofi fe... :( Gwahanglwyf?)

Hefyd, weles i eitem ar Wedi 7 (:wps: ) am far sy' newydd 'i agor gan dwy chwaer... Ma nhw'n dangos darnau celf a ffilmiau byrion ar sgrinau bach personol, ond allai ddim a cofio enw'r lle sori. Rhywun yn gwybod?

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:49 am
gan Cymro13
Dwlwen a ddywedodd:Os mai bwyd da yw dy fag - ma'r Armless Dragon yn 'neud stwff gourmet Cymraeg (ond dwy erioed di'i brofi fe... :( Gwahanglwyf?)


Ma fe'n le neis, ond bach yn ddrud

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:50 am
gan Llefenni
"Miss miiiiss!" (llaw fyny fel y geek ac ydw i)

Milgi ar Crwys Road - rioed di bod yna a s'gen y byggars ddim gwefan :(

Edrych yn top iawn (a'n ffrind i wnaeth y graffeg faux gothig i'r lle.... schlllic)

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:52 am
gan Dwlwen
Llefenni a ddywedodd:"Miss miiiiss!" (llaw fyny fel y geek ac ydw i)

Milgi ar Crwys Road - rioed di bod yna a s'gen y byggars ddim gwefan :(

Milgi! Gwych - diolch Llefenni, gei di fynd yn syth at flaen y ciw cinio :D

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 12:07 pm
gan Rhys
Llefenni a ddywedodd:"Miss miiiiss!" (llaw fyny fel y geek ac ydw i)

Milgi ar Crwys Road - rioed di bod yna a s'gen y byggars ddim gwefan :(

Edrych yn top iawn (a'n ffrind i wnaeth y graffeg faux gothig i'r lle.... schlllic)


Enw gwych, swnio braidd yn arti yn l disgrfiad Dwlwen o etem Wedi 7, ond werth mynd i weld.

Geraint a ddywedodd:Dwi ddim yn rhy hoff o'r Mochyn Du, mae'n teimlo fel fod pawb yn eistedd na'n smyg "dwi'n siarad Cymraeg dwi' yn"......"drych dyna xxxxxxxx o fobl y cwm!"........... "dwi'n mynd i'r bar i ordro peint yn Gymraeg!!!!!"


and......? Alli di enwi rhywbeth sy'n well na spotio actiorio'n PyC a siarad Cymraeg gyda dieithriaid? :D

Diolch Dafydd, pawb dy dysgu pethau newydd o'r edefyn yma

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 12:12 pm
gan Geraint
Llefenni a ddywedodd:"Miss miiiiss!" (llaw fyny fel y geek ac ydw i)

Milgi ar Crwys Road - rioed di bod yna a s'gen y byggars ddim gwefan :(

Edrych yn top iawn (a'n ffrind i wnaeth y graffeg faux gothig i'r lle.... schlllic)


Oes na pool table?

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 12:52 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Llefenni a ddywedodd:"Miss miiiiss!" (llaw fyny fel y geek ac ydw i)

Milgi ar Crwys Road - rioed di bod yna a s'gen y byggars ddim gwefan :(

Edrych yn top iawn (a'n ffrind i wnaeth y graffeg faux gothig i'r lle.... schlllic)


Edrych mlaen i fynd fyna. Mae Clonc hefyd ar Cowbridge Road sy'n agor yn hwyr. Ond mae'r lle yn rip off yn fy marn ddiymhongar i.

Erioed 'di bod i'r Armless Dragon, Dwlwen. Ti moyn talu?

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 12:54 pm
gan Mici
guaranteed y clywi di Gymraeg (gogs yn bennaf, gwaetha'r modd ) yn Cornwall, Grangetown... ffacinel, ma'r jawled yn bobman erbyn hyn,


Boi tacsi yn deud "It's all Welshies down there now" am Grangetown pan oeddwn lawr chydig yn ol 8) .

Mae well gin i nos Wener na nos Sadwrn yn Gaerdydd deud gwir, fel arfer cyrraedd reit ffresh ar ddydd Gwenar, dim gymaint o 'stags a hens' o'r Cymoedd yn cwffio a sgrechian ar nos Wenar a llai o aros i fynd fewn i lefydd(Heblaw clwb nos Liquid am rhyw rheswm).

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 3:53 pm
gan Norman
Eshi i'r Milgi nos wener dwytha - jus am un sydyn. Staff yn siared Cymraeg yno & bwydlen yn Gymraeg - edrych yn fwyd eitha da 'fyd. Neshim sylwi ar sgriniau bach personol, ond maer decor reit neis, a cwrw yn eitha 'diddorol'.