Wedi bod ar ddau daith ar gwch yr haf ma, ac wedi mwynhau y ddau. Cyfle i weld y tir o bersbectif arall, a gweld llawer o fywyd gwyllt.
Y ddau dwi di bod ar yw
1. O gwmpas Ynys Seiriol, o Biwmaris. Ar gwch confensyinol. Llawer o adar yn nythu, yn cynnwys y Pal. Morloi. Rhad (£7 am awr).
2. O gwmpas Ynys Ddewi. Ar gwch pwer cyflym. Gweld nifer fawr o forloi, mynd mewn i ogofau. Adar yn nythu os yr yn yr amser iawn. Gweld dolffins ayb os yn lwcus (o ni ddim). Cwch cyflym, sy'n gyffrous. Drud (£20 am awr)
Pa rhai erill sydd yna a be ma nhw fel?