Tudalen 1 o 1

Teithiau Cychod

PostioPostiwyd: Maw 12 Medi 2006 4:38 pm
gan Geraint
Wedi bod ar ddau daith ar gwch yr haf ma, ac wedi mwynhau y ddau. Cyfle i weld y tir o bersbectif arall, a gweld llawer o fywyd gwyllt.

Y ddau dwi di bod ar yw

1. O gwmpas Ynys Seiriol, o Biwmaris. Ar gwch confensyinol. Llawer o adar yn nythu, yn cynnwys y Pal. Morloi. Rhad (£7 am awr).

2. O gwmpas Ynys Ddewi. Ar gwch pwer cyflym. Gweld nifer fawr o forloi, mynd mewn i ogofau. Adar yn nythu os yr yn yr amser iawn. Gweld dolffins ayb os yn lwcus (o ni ddim). Cwch cyflym, sy'n gyffrous. Drud (£20 am awr)

Pa rhai erill sydd yna a be ma nhw fel?

PostioPostiwyd: Maw 12 Medi 2006 6:38 pm
gan Norman
Mae ffrind i mi wedi bod ar drip cwch o Barri i un or ynysoedd sydd yng nghanol yr Hafren - rhwng Caerdydd a Weston-Super-Mare. Ynys Echni/Flat Holm [rhan o Gymru] a Steep Holm [Lloegr] ywr ynysoedd.
Mi oedd y ddau yn bwysig iawn yn y ddau ryfal byd, a fel canlyniad, yn llawn adfaelion. Adar sydd yn byw yn y ddau bellach.
Gweler
http://en.wikipedia.org/wiki/Steep_Holm
+
http://en.wikipedia.org/wiki/Flat_Holm

Dyddiadau & manylio hwylio : http://flatholm.co.uk/

Tydwi rioed wedi bod, ond swnin ama bod hi braidd yn hwyr yn y flwyddyn i fynd yno.

Ynys arall yw Enlli wrth gwrs!

Re: Teithiau Cychod

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 9:20 am
gan khmer hun
Geraint a ddywedodd:2. O gwmpas Ynys Ddewi. Ar gwch pwer cyflym. Drud (£20 am awr)


Fe elli ddal cwch cyffredin i ynys Dewi o Borthstinian a chael ryw deirawr yn crwydro'r ynys yng nghanol y bwnis. Ond cer ar yr adeg pan fo'r cywion palod ar y clogwyni - gweler yma.

Dymahanes a map o'r ynys, yn dangos enwau hynod yr ogofâu, fel Trwyn Bendro a Trwynllundain a Thrwyn Sion Ifan!

Diolch am y tip am ynys seiriol - swnio'n braf.

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 9:58 am
gan Sili
Esi am drip cwch pan esi i aros ar Ynys Enlli flwyddyn yma, o Porthmeudwy, dros y swnt ac ogwmpas yr ynys cyn glanio. A cyfla ynghanol yr wythnos i deithio yn y gwch newydd felen o gwmpas yr ynys eto. Profiad gwych efo llwyth o adar yn nythu a morloi a ballu i'w gweld
:D
Mai werth trip allan yno os oes gen ti ddiddordeb.

Re: Teithiau Cychod

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 11:09 am
gan Geraint
khmer hun a ddywedodd:Fe elli ddal cwch cyffredin i ynys Dewi o Borthstinian a chael ryw deirawr yn crwydro'r ynys yng nghanol y bwnis.


Ni fydd bwnis i grwydro rhwng am ychydig flynyddoedd, mae miximatosis newydd gyrraedd yr ynys gan ladd 98% o'r cwnignod :crio:


Wedi bod i Enlli, lle arbenning. Dwi wedi clywed fod yna daith o Bwllheli neu Llanbedrog i Ynys Wylan Fach a Mawr sydd fod yn un da.

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 2:21 pm
gan S.W.
Ai'r daith cwch o amgylch Ynys Seiriol ydy'r un mewn cwch hefo cadeiriau patio gwyn wedi eu sgriwio i'r llawr? Wedi bod ar hwnnw sawl gwaith pan yn ifanc, wrth fy modd a fo.

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 4:07 pm
gan Geraint
S.W. a ddywedodd:Ai'r daith cwch o amgylch Ynys Seiriol ydy'r un mewn cwch hefo cadeiriau patio gwyn wedi eu sgriwio i'r llawr? Wedi bod ar hwnnw sawl gwaith pan yn ifanc, wrth fy modd a fo.


Dyna fo! Yr 'Island Princess'. Mae nhw'n chware tap yn adrodd yr hanes lleol gan ddyn efo llais posh saesneg. Mae'r hen ddyn sy'n dreifio'r cwch yn ychwanegu sylwadau ei hyn, sy'n reit ddoniol. Dwi wrth fy modd efo fo hefyd, wedi bod arno ddwywaith yn y blwyddyn dwetha.