Marrakech

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marrakech

Postiogan garetshyn » Iau 21 Medi 2006 1:05 pm

Oes rhywun a phrofiad o ymweld a Marrakech?
Meddwl mynd na am dro mis Tachwedd :D
Rhithffurf defnyddiwr
garetshyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 9:07 am

Postiogan Meg » Gwe 20 Hyd 2006 7:53 pm

Lle difyr iawn, iawn. Sgwâr Djemma el-Fna yn wych, sef y sgwâr anferthol ynghanol y Medina (yr hen dref). Mae’n ddigon prysur yno ganol dydd, ond unwaith mae’r haul yn diflannu, mae ‘na filoedd o bobl yn tyrru yno. Mae’r lle’n byrlymu efo hen ddynion yn dweud straeon, ugeiniau o nadroedd yn cael eu hudo i ddawnsio, a’u gosod ar ysgwyddau twristiaid – sy’n gorfod talu am y fraint o gael tynnu lluniau wedyn. Gofala gytuno ar y pris cyn cymryd yr un llun, neu drio cymryd un ar y slei. Yr un peth efo'r dawnswyr, drymwyr a cherddorion. A gwylia'r merched sy'n mynnu paentio dy ddwylo efo henna. Os wyt ti isio patrwm ar dy law, iawn, os na, deuda hynny reit blaen.
Bwyd hyfryd a rhad yn y stondinau ar y sgwar. Ond gwerth talu mwy am un o'r tai bwyta sy'n sbio lawr ar y sgwar hefyd. Yr amgueddfeydd ddim yn arbennig o be gofia i. Te mintys - lysh. Tagines bendigedig. Pryna garped ond gofala fargeinio. Pryna Rough Guide neu rwbath cyn mynd - handi iawn.
Joia!
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron