gan Gowpi » Llun 02 Hyd 2006 11:43 am
3 neu 4 noson fuon ni yno, hefyd yn mis Tachwedd. Mae hi'n ddigon oer yno (ddim mor oer a fan hyn). Mae yna farchnad enfawr ar rhyw sgwar (ddim yn cofio enw - sori) gyda llwyth o stondinau yn gwerthu addurniadau Nadolig amser 'na o'r flwyddyn. 'Flea market' ar y Sul, ond cer yn ddigon cynnar.
Ethon ni weld gem ffwtbol Real yn erbyn rhyw dim arall yn y Bernebeu - werth gweld, er nad odw i'n hoff o'r gem. Fe wnes i fwyta llwyth o 'jamon' - ham hyfryd ac yfed lot o Cola Cao - siocled poeth lleithog mmmmm! Ethon ni i oriel y Prado - enfawr, dim digon o amser i weld popeth. Odd arddangosfa Picasso pan ethon ni...
Ethon ni am ddiwrnod bant i Toledo - taith 1 awr ar fws. Hyfryd hyfryd. Mae'n dref ar dop bryn serth, golygfeydd hyfryd, lot o adeiladau Moor-aidd (dylanwad y Twrc), cweint iawn! Angen gallu siarad Sbaeneg yma.
Ar y cyfan - mwynhau'n fawr - mwynha dithe!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.