Madrid

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Madrid

Postiogan sion blewyn coch » Gwe 29 Medi 2006 9:58 pm

Dwi'n mynd am bedair noson ym mis tachwedd. rhywun di bod? mwynhau? sut le dio? hefyd, os na rhywun yn gwbo sud dywydd fydd na adag yma o'r flwyddyn?
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan Gowpi » Llun 02 Hyd 2006 11:43 am

3 neu 4 noson fuon ni yno, hefyd yn mis Tachwedd. Mae hi'n ddigon oer yno (ddim mor oer a fan hyn). Mae yna farchnad enfawr ar rhyw sgwar (ddim yn cofio enw - sori) gyda llwyth o stondinau yn gwerthu addurniadau Nadolig amser 'na o'r flwyddyn. 'Flea market' ar y Sul, ond cer yn ddigon cynnar.

Ethon ni weld gem ffwtbol Real yn erbyn rhyw dim arall yn y Bernebeu - werth gweld, er nad odw i'n hoff o'r gem. Fe wnes i fwyta llwyth o 'jamon' - ham hyfryd ac yfed lot o Cola Cao - siocled poeth lleithog mmmmm! Ethon ni i oriel y Prado - enfawr, dim digon o amser i weld popeth. Odd arddangosfa Picasso pan ethon ni...

Ethon ni am ddiwrnod bant i Toledo - taith 1 awr ar fws. Hyfryd hyfryd. Mae'n dref ar dop bryn serth, golygfeydd hyfryd, lot o adeiladau Moor-aidd (dylanwad y Twrc), cweint iawn! Angen gallu siarad Sbaeneg yma.

Ar y cyfan - mwynhau'n fawr - mwynha dithe!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan sion blewyn coch » Mer 11 Hyd 2006 10:43 am

www, neis. dwi'n mynd am ddiwrnod i Toledo fyd. edrych mlaen yn FAWR. diolch Gowpi!
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Postiogan Rhys » Mer 11 Hyd 2006 11:06 am

Efalla byddai wefan/blog hwn http://www.madaboutmadrid.com/ gan foi o Gaerffili o ddefnydd i ti.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Wil wal waliog » Iau 19 Hyd 2006 12:01 pm

Cer i weld y Plaza de Toros, ma'n adeilad gret. Bernebau werth ei weld, os ei di ar y tour ti'n cal mynd i'r 'stafelloedd newid ayb. Itha cool.

Cer i weld y llun Guernica yn Centro de Arte Reina Sofia.

Ond yn fwy na dim jyst cofia i ymlacio 'na...byta, yfed a cysgu. :D
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan blanced_oren » Iau 19 Hyd 2006 9:44 pm

Mae'r Parque del Retiro yn hyfryd, jyst lle neis i grwydro. Fuon ni amser yr hydref ac roedd y lliwiau'n hardd.

Hefyd un peth anhygoel werth ei gweld ydy'r hen adeilad steisiwn Atocha - wedi troi yn ardd tropical tu fewn!
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron