Tudalen 1 o 1

Madrid

PostioPostiwyd: Gwe 29 Medi 2006 9:58 pm
gan sion blewyn coch
Dwi'n mynd am bedair noson ym mis tachwedd. rhywun di bod? mwynhau? sut le dio? hefyd, os na rhywun yn gwbo sud dywydd fydd na adag yma o'r flwyddyn?

PostioPostiwyd: Llun 02 Hyd 2006 11:43 am
gan Gowpi
3 neu 4 noson fuon ni yno, hefyd yn mis Tachwedd. Mae hi'n ddigon oer yno (ddim mor oer a fan hyn). Mae yna farchnad enfawr ar rhyw sgwar (ddim yn cofio enw - sori) gyda llwyth o stondinau yn gwerthu addurniadau Nadolig amser 'na o'r flwyddyn. 'Flea market' ar y Sul, ond cer yn ddigon cynnar.

Ethon ni weld gem ffwtbol Real yn erbyn rhyw dim arall yn y Bernebeu - werth gweld, er nad odw i'n hoff o'r gem. Fe wnes i fwyta llwyth o 'jamon' - ham hyfryd ac yfed lot o Cola Cao - siocled poeth lleithog mmmmm! Ethon ni i oriel y Prado - enfawr, dim digon o amser i weld popeth. Odd arddangosfa Picasso pan ethon ni...

Ethon ni am ddiwrnod bant i Toledo - taith 1 awr ar fws. Hyfryd hyfryd. Mae'n dref ar dop bryn serth, golygfeydd hyfryd, lot o adeiladau Moor-aidd (dylanwad y Twrc), cweint iawn! Angen gallu siarad Sbaeneg yma.

Ar y cyfan - mwynhau'n fawr - mwynha dithe!

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 10:43 am
gan sion blewyn coch
www, neis. dwi'n mynd am ddiwrnod i Toledo fyd. edrych mlaen yn FAWR. diolch Gowpi!

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 11:06 am
gan Rhys
Efalla byddai wefan/blog hwn http://www.madaboutmadrid.com/ gan foi o Gaerffili o ddefnydd i ti.

PostioPostiwyd: Iau 19 Hyd 2006 12:01 pm
gan Wil wal waliog
Cer i weld y Plaza de Toros, ma'n adeilad gret. Bernebau werth ei weld, os ei di ar y tour ti'n cal mynd i'r 'stafelloedd newid ayb. Itha cool.

Cer i weld y llun Guernica yn Centro de Arte Reina Sofia.

Ond yn fwy na dim jyst cofia i ymlacio 'na...byta, yfed a cysgu. :D

PostioPostiwyd: Iau 19 Hyd 2006 9:44 pm
gan blanced_oren
Mae'r Parque del Retiro yn hyfryd, jyst lle neis i grwydro. Fuon ni amser yr hydref ac roedd y lliwiau'n hardd.

Hefyd un peth anhygoel werth ei gweld ydy'r hen adeilad steisiwn Atocha - wedi troi yn ardd tropical tu fewn!