mae'n dibynnu be tisio neud. mae'r
radegund yn dafarn fach fach hyfryd.(mae'r smotyn coch i fod yn nes at y gylchfan ond dyna ni...). ar king's st, hefyd, ma 'na sawl tafarn ok - y champion of the thames (bach, twee), y bun shop (brecwast neis i'w gael) a'r king's st run (tafarn goths a rocwyr). cer i'r
maypoleam cocktails mewn jwgs mawr a ballu.
ma'r
eagle(ar benet street) yn le twristaidd ond agos at fy nghalon (os ti'n gweld boi yn edrych yn debyg i gollum yn yfed gwin yn y bar cefn, gweda helo wrth sara). ma'r kambar yn le da os ti'n ffan o emo ac yn hoffi red stripe a phobol hyll (jyst lawr y ffordd o'r eagle ma hwnna)
gwell edrych ar y
red pages - listings 'after dark' - i gael gwell syniad o beth sy mlaen, wel, gyda'r nos.
y
gerddi botaneg (mynedfa ar bateman st) yn neis radeg yma, ynghyd â christ's pieces, midsummerr common, parker's piece, jesus green i grwydro. o'r colegau i ymweld â nhw, tria queens (yr hen ddarn dros bont y mathemategwyr, nid y bit modern), gonville & caius, corpus christi a clare (am y gerddi yn benna).
bwyta? os ti'n gyfoethog iawn, cer i
midsummer house. fel arall, mae dipyn o lefydd hot a sbeisi ar
mill road. ma dojos (
mill lane) yn dda am wledd nwdlaidd. indigo (
st edward's passage- fy hoff basej, gyda llaw) yn le neis i gael cacen yn y dydd. y lle gore, gyda llaw, a gei di ddim peidio mynd yno ydi SAVINOS (
Emmanuel Street.) Mae'r frechdan Brasiliana yn Amesin, yn ogystal â'r coffi (y 'cafe shakerato' yn arbennig), y poteli bach o sudd egsotig a pastries bach poeth (heb anghofio Peter, aka the 'Silver Fox'). Muam!