Tudalen 1 o 1

Caergrawnt am b'wthnos

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 12:18 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ar wahan i TapS, all unrhywun arall argymell lle i fynd, be i 'neud, lle i fwyta, lle i yfed yn y ddinas wych hon?

Thenciw in antisipeshyn!

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 12:53 pm
gan tafod_bach
mae'n dibynnu be tisio neud. mae'r radegund yn dafarn fach fach hyfryd.(mae'r smotyn coch i fod yn nes at y gylchfan ond dyna ni...). ar king's st, hefyd, ma 'na sawl tafarn ok - y champion of the thames (bach, twee), y bun shop (brecwast neis i'w gael) a'r king's st run (tafarn goths a rocwyr). cer i'r maypoleam cocktails mewn jwgs mawr a ballu.
ma'r eagle(ar benet street) yn le twristaidd ond agos at fy nghalon (os ti'n gweld boi yn edrych yn debyg i gollum yn yfed gwin yn y bar cefn, gweda helo wrth sara). ma'r kambar yn le da os ti'n ffan o emo ac yn hoffi red stripe a phobol hyll (jyst lawr y ffordd o'r eagle ma hwnna)
gwell edrych ar y red pages - listings 'after dark' - i gael gwell syniad o beth sy mlaen, wel, gyda'r nos.

y gerddi botaneg (mynedfa ar bateman st) yn neis radeg yma, ynghyd â christ's pieces, midsummerr common, parker's piece, jesus green i grwydro. o'r colegau i ymweld â nhw, tria queens (yr hen ddarn dros bont y mathemategwyr, nid y bit modern), gonville & caius, corpus christi a clare (am y gerddi yn benna).

bwyta? os ti'n gyfoethog iawn, cer i midsummer house. fel arall, mae dipyn o lefydd hot a sbeisi ar mill road. ma dojos (mill lane) yn dda am wledd nwdlaidd. indigo (st edward's passage- fy hoff basej, gyda llaw) yn le neis i gael cacen yn y dydd. y lle gore, gyda llaw, a gei di ddim peidio mynd yno ydi SAVINOS (Emmanuel Street.) Mae'r frechdan Brasiliana yn Amesin, yn ogystal â'r coffi (y 'cafe shakerato' yn arbennig), y poteli bach o sudd egsotig a pastries bach poeth (heb anghofio Peter, aka the 'Silver Fox'). Muam!

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 12:23 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Sut 'sa chdi'n cyrradd yno o Gaerdydd? Heibio Llundain, neu heibio Byrmingham?!

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 5:20 pm
gan krustysnaks
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Sut 'sa chdi'n cyrradd yno o Gaerdydd? Heibio Llundain, neu heibio Byrmingham?!

Argh. Siwrne erchyll, mae'n debyg, ydi Caerdydd i Gaer-grawnt.

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 5:23 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ydi beryg...ond pa ffordd?!

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 9:33 am
gan tafod_bach
dim syniad sori. tria ffeindio'r a14 rywsut? :?

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 8:07 am
gan Fflamingo gwyrdd
Diolch Tafod - pnd wedi bod bellach, ac wedi joio'n arw.

Wedi dilyn dy gyngor a mynd i'r Eagle, y gerddi botaneg, wedi cerdded ar hyd y llwybr o'r dref yr holl ffordd i ddiwedd y boathouses, wedi cael ein tinnau yn wlyb mewn pynt, ac yn gyffredinol wedi cyfro'r ddinas yn reit dda ar droed! Wedi gwneud ein hunain yn gartrefol ym mar coleg y Brenin, ac wedi cyfarfod a'r enwog Krusty.

Rwbath pwysig arall nesh i adael allan?! :winc: