gan CymroBach » Iau 12 Hyd 2006 9:32 am
Bues i yn Jamaica y flwyddyn diwethaf.
Dwi ddim yn moen newid dy feddwl am fynd achos mae'n le anhygoel, ond yn debyg iawn i lawer o ynysoedd arall y caribi fel Cuba a Dominica, mae'n well aros yn yr ardal lle mae'r gwesty a mwynhau'r tywydd. Os oes diwrnod allan yn cael ei hysbysebu - mae'r rhanfwyaf ohonyn nhw ar 'noticeboard' yn y gwestai - mae'n werth mynd ar un neu ddau. Ond paid a mynd wrth dy hun i lefydd fel Kingston, achos mae 'na rhai ardaloedd sydd dim yn rhy saff.
Wedi dweud hynny, mae yn werth mynd i Kingston ar daith sydd wedi trefnu achos mae'r marchnadau a'r bwyd sydd ar gael yn ffantastic.
Bydden ni ddim yn awgrymu teithio yn unigol o amgylch yr ynys. Ond dyw'r ardal twristiaeth ddim mor wael a llefydd Ewropeaidd, a mae teimlad llawer mwy hamddenol i'r lle. Doeddwn i ddim eisiau gadael ardal y gwesty llawer.
Gobeithio bod hyn o help.