Su mai, dwnim am ffleits rhad yno, Gan fod maes awyr Galway yn fach mae'r wasanaeth yn reit wasgarog. Mae Aer Arran yn fflio o Manceinion a Caerdydd.
Mae awyrennau yn mynd bob diwrnod o Manceinion a dim ond ar ddydd Mawrth, Iau a Sadwrn o Gaerdydd. Mae na wasanaeth newydd yn dechrau o Southampton, Copenaghen a Cork ond di heini dau ddim byd i chdi
Yn syml y gynarach nei di fwcio fo y rhataf fydd y pris gan mai dim ond tua 55-60 mae awyren Aer Arran yn ddal ond ella fyddi di gorfod talu rhwng £80 a £100 y person beth bynnag.
Y ffordd rhataf o gyrraedd Galway ydi'r ffordd 'scenic' neu hiraf sef tren o Fangor i Gaergybi wedyn y gwch drosodd i Ddulyn a bws i Galway(Ma gwasanaeth tren yn warthus, bysus yn mynd bob awr) neith o ddim costio mond rhyw £40 y person i chdi i gyd.