Tudalen 1 o 1

Galway am benwythnos - y ffordd rhatach?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Hyd 2006 7:00 pm
gan S.W.
Dwi awydd mynd i Galway o gwmpas mis Ebrill am benwythnos hefo'r wraig. Be ydy'r ffordd hawsaf a rhatach o gyrraedd yno?

Oes na unrhyw wefanau arbennig da ar gyfer flights rhad heblaw am Expedia?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Hyd 2006 7:23 pm
gan Siliseibyn
Gofyn i Mici sydd ar y maes, mae o'n byw yno ar y funud ers ryw 2 fis.

PostioPostiwyd: Sad 21 Hyd 2006 4:49 pm
gan Mici
Su mai, dwnim am ffleits rhad yno, Gan fod maes awyr Galway yn fach mae'r wasanaeth yn reit wasgarog. Mae Aer Arran yn fflio o Manceinion a Caerdydd.

Mae awyrennau yn mynd bob diwrnod o Manceinion a dim ond ar ddydd Mawrth, Iau a Sadwrn o Gaerdydd. Mae na wasanaeth newydd yn dechrau o Southampton, Copenaghen a Cork ond di heini dau ddim byd i chdi :?

Yn syml y gynarach nei di fwcio fo y rhataf fydd y pris gan mai dim ond tua 55-60 mae awyren Aer Arran yn ddal ond ella fyddi di gorfod talu rhwng £80 a £100 y person beth bynnag.

Y ffordd rhataf o gyrraedd Galway ydi'r ffordd 'scenic' neu hiraf sef tren o Fangor i Gaergybi wedyn y gwch drosodd i Ddulyn a bws i Galway(Ma gwasanaeth tren yn warthus, bysus yn mynd bob awr) neith o ddim costio mond rhyw £40 y person i chdi i gyd.

PostioPostiwyd: Sul 22 Hyd 2006 8:44 am
gan S.W.
Handi! Diolch am hynny. Mi wnai edrych i weld pryd gallai gael flight rhad o Fanceinion llu. Gan bod ni mond yn meddwl mynd am benwythnos hir perryg fydd taith bws ayyb yn cymryd gormod o amser.

PostioPostiwyd: Mer 25 Hyd 2006 6:13 pm
gan Diogel
Fe hedfanon ni o Fanceinion i Knock rhyw 2 flynedd nol.tacsi o0 Knock i'r ddinas wedyn. Dim yn cofio faint oedd e gan ein bod yn grwp o 45 ar penwythnos stag!!!Cer i'r Quays a'r Kings Head.Cerddoriaeth byw lan star yn y Quays yn anhygoel.