Tudalen 1 o 1

Castell y Bewpyr

PostioPostiwyd: Sad 28 Hyd 2006 7:57 pm
gan Dili Minllyn
Oes rhywrai eraill wedi ymweld รข Chastell y Bewpyr, Llanfleiddian, Bro Morgannwg? Mae'n lle digon anodd dod o hyd iddo - rhaid cymryd y ffordd gul o'r Bont Faen i Sain Tathan, ac wedyn cerdded ar draw y caeau - ond mae'n werth ei weld. (Does dim ffi i fynd i mewn, chwaith).

PostioPostiwyd: Sul 19 Tach 2006 8:07 pm
gan Dili Minllyn
Wedi bod yma tua 4 o'r gloch heddiw. Mae'n lle hollol sbŵci gyda'r machlud. Gwell i'r rhai nerfus fynd yn yr haf, efallai. I'r rhai sy'n ymhyfrydu mewn daearyddiaeth ffisegol mae, mae hen lyn bŵa yn ymyl y llwybr.

Cawsom ginio braf yng Ngwesty'r Arth, y Bontfaen, wedyn, gan gwblhau prynhawn digon difyr.