Golygfeydd Gorau Cymru

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Maw 28 Tach 2006 2:30 pm

Mae'r golygfeydd o t? ni yn eitha trawiadol:
1) Y môr (garw) a Sir Fôn wrth ddod lawr stâr yn y bore
2) Gyrn Ddu, Gyrch Goch a Foel Pen Llechog wrth roi dillad ar lein.
3) Yr Eifl yn ei holl ysblander wrth grafu tato
4) Y machlud trwy Nant Mawr wrth fyta swper

(Ac mae'e fenga'n dal i watsho rwtsh Americanaidd ar teledu pob cyfle geith hi :drwg: )
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

porthdinllaen

Postiogan Gerbo » Maw 28 Tach 2006 7:41 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Gerbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 2:50 pm
Lleoliad: Pwllheli, Gwynedd

yr eifl

Postiogan Gerbo » Maw 28 Tach 2006 7:44 pm

mae'r eifl yn codi'n nghalon wrth ddod adref 'fyd...

http://news.bbc.co.uk/media/images/39980000/jpg/_39980161_eifl300245.jpg

http://origins-photography.co.uk/acatalog/Nefyn%20Beach%20and%20Yr%20Eifl.jpg

Mae'r llun cyntaf o draeth dinas dinlle, a'r ail o draeth nefyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Gerbo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 2:50 pm
Lleoliad: Pwllheli, Gwynedd

Postiogan GringoOrinjo » Maw 28 Tach 2006 8:26 pm

Ma'r golygfeydd oddi ar tren Pwllheli-Aberystwyth ar ddiwrnod braf yn hyfryd, n'enwedig o gwmpas Bermo.
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 29 Tach 2006 12:30 pm

Mae'r olygfa o 'nho o ddinas Caerydd, Ynys Echni, a'r tu hwnt i'r rheina Gwlad yr Haf, yn fendigedig.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cardi Bach » Mer 29 Tach 2006 1:00 pm

Chwadan a ddywedodd:
Ger Rhys a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Yr olygfa o Tal y Llyn (dwin meddwl dyna ydy o) wrth yrru lawr o Ddolgellau am gyfeiriad Mach heibio Cadair Idris.


Ai, diawch o olygfa godidog a Phulpud y Cythrel uwchben y ffordd.

Mae na olygfa bendigedig hefyd o gopa'r Moel Offrwm uwchben Llanfachreth yn sbio lawr y Fawddach ac i fyny am y Wyddfa a Chader Idris yn llenwi'r llun wrth edrych tua'r De.

Lle arall sydd efo golygfeydd bendigedig ydy Islawrdre, llynoedd y Cregennan a Phared y Cefn Hir ar droed Tyrrau Mawr.

Ategaf. S'na nunlle gwell na chopa'r Pared. Wir yr rwan.


Yn wir - copa Pared y Cefn Hir yn edrych lawr dros aber y Fawddach, a llynnoedd Cregennan.

Dyffryn Dysynni yn uffernol o hardd fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nôl

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai