Gyda gwlad mor hardd i grwydro o'i chwmpas, o'n i'n meddwl bydde'n werth ffindo mas beth yw hoff olygfeydd gweddill y maeswyr. Er bo fi heb feddwl yn ddwys am y peth, i fi, ma na ambell i fan sy'n dod i'r meddwl yn syth.
Yn gynta, y ffordd o Llanidloes i Machynlleth (ffordd fynyddig iawn)... wrth i chi ddod i ben y mynydd, jyst cyn dachre'r daith lawr tuag at Mach, ma da chi olygfa anhygoel o Cadair Idris, Eryri a dyffryn yr afon Dyfi. Gwerth ei gweld.
Yn ail, yr olygfa o nghartre gwreiddiol i yn Ffair Rhos, gyda Cors Caron a tua 20 milltir o dirlun gwastad o'ch blaen a mynyddoedd hardd ar y ddwy ochr.
Yn drydydd, bach yn od falle, ond dal itha impressive, yw'r olygfa wrth gyrraedd Aberystwyth o'r gogledd, wrth gychwyn lawr rhiw penglais. Oes rhywun yn gallu meddwl am well 'cyflwyniad' i dref/dinas/pentre yng Nghymru?!
Rhywun yn cytuno da fi ar unrhyw rai o'r uchod, neu oes da chi awgrymiade gwell?