Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 5:22 am
gan dienw
Positif80 a ddywedodd:Rhyl trwy rear view mirror.


:lol:

Rhyl yn clas o le siwr!

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 9:54 am
gan Gwen
garynysmon a ddywedodd:Mae'r olygfa o Eryri o Dde Ynys Mon, ond yn enwedig Malltraeth/Niwbwrch yn neis.


Mae cartref fy rhieni (lle ces i fy magu) ar un o'r llethrau yna ac mae ganddyn nhw olygfa banoramig o Ynys Môn (canol yn fwy na'r de, a deud y gwir). A bod yn onest, golygfa ddigon fflat, undonog a chorslyd ydi hi,* ond mae pobl o Sir Fôn bob amser yn gwirioni amdani hi. Roedd y dyn ddysgodd fi i ddreifio bob amser yn cwyno mod i'n parcio o flaen polyn lamp a'i fod o'n gorfod mynd allan o'r car i weld yr olygfa'n iawn. Ond, wir rwan, mae'r olygfa ffordd arall rownd yn lot mwy trawiadol, tydi?

[* Heblaw am yr olygfa o fy llofft i, yn wynebu'r gogledd, sy'n cynnwys rhan o'r Fenai, Biwmares, Penmon ac Ynys Seiriol (... a garej Llys y Gwynt a Castell Penrhyn).]

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 12:21 pm
gan Geraint
Mae gyd o'r rhai amlwg yn y Gogledd a'r Gorllewin, ond mae yna olygfeydd syfrdanol i'w gael yn y canolbarth ac ar y ffin. O ben y Breidden, sef hen hen llosgfynydd reit ar y ffin i'r gogledd o'r Trallwng, ma na olygfa o Sir Amwythig (Wenlock, Long Mynd), Sir Gaer, Bryniau Clwyd, Y Berwyn ac Aran Fawddwy, Dyffryn Hafren, gogledd Sir Drefaldwyn, a Chadair Idris ar ddiwrnod clir. Mae nifer o fryniau yn yr ardal hyn yn rhoi golygfeydd tebyg.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 1:03 pm
gan Dewi Lodge
jammyjames60 a ddywedodd:Un o'm hoff golygfeydd i yw'r panormaic view o ardal Eifionydd ar ben y Cnicht ac aber Malddach ar y cynefin:

http://static.flickr.com/100/282560192_66492e3ce1.jpg

Mae Cnicht yn anhygoel hefyd, mae pawb yn ei alw'n 'Zermatt Cymru' :)


Mae'n rhaid dy fod yn dal felly, Jammy! Fedri di'm gweld Eifionydd nag Abermawddach o ben Y Cnicht. Mae'n siwr nag Aberglaslyn wyt ti'n feddwl a mae Moel Hebog rhwng Y Cnicht ag Eifionydd. Ond dwi'n cytuno fel arall, mae'r olyfga o ben y Cnicht yn odidog.

Un o fy hoff olygfeydd yw'r un o ben Mynydd Mawr, Uwchmynydd. Dros y Swnt i Enlli ag yna troi o amgylch ag edrych draw am Eryri dros Mynydd Rhiw, Garn Fadryn a'r Eifl. Ag os di'n ddiwrnod hynod o glir, cewch weld Mynyddoedd Wicklow yn y pellter.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 1:41 pm
gan Mr Gasyth
Dyffryn Clwyd, naill ai o Fryniau Clwyd neu o Foel Gasyth yr ochr arall.

Hefyd, yr olyfa o'r Eifyl

Mae golygfeydd gwych i'w cael yn y Cymoedd hefyd, yn arbennig o gwmpas Y Rhondda ac o Gwm Nedd o'r ffordd dros y Rhigos.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 1:48 pm
gan jammyjames60
Dewi Lodge a ddywedodd:
jammyjames60 a ddywedodd:Un o'm hoff golygfeydd i yw'r panormaic view o ardal Eifionydd ar ben y Cnicht ac aber Malddach ar y cynefin:

http://static.flickr.com/100/282560192_66492e3ce1.jpg

Mae Cnicht yn anhygoel hefyd, mae pawb yn ei alw'n 'Zermatt Cymru' :)


Mae'n rhaid dy fod yn dal felly, Jammy! Fedri di'm gweld Eifionydd nag Abermawddach o ben Y Cnicht. Mae'n siwr nag Aberglaslyn wyt ti'n feddwl a mae Moel Hebog rhwng Y Cnicht ag Eifionydd.


Na fo, ia, diolch am fy ngwirio i! Oni bai am yr olygfa oddi ar be y cnicht yn un prydferth hefyd!

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:56 pm
gan Positif80
dienw a ddywedodd: Rhyl yn clas o le siwr!


Fyddi di'n dweud fod Fflint yn cwl o le hefyd nesaf. :crechwen:

PostioPostiwyd: Sad 25 Tach 2006 8:30 pm
gan y mab afradlon
1) Yr olygfa o Garn-y-Bugail, dros Ferthyr (yn enwedig pan fo niwl yn cuddio Merthyr ei hunan...!) shag at Ben-y-Fan a bannau Brycheiniog

2) Capel Gwladys. Wrth i'r haul fachlud, mae goleuadau Cwm Rhymni yn troi malen, ac yn f'atgoffa fi wastod o gerddi Idris Davies (sydd gyda llaw yn cae ei gofio am rai o'i gerddi gwanaf, tra bod ei wir athrylith yn cael ei anghofio gan ei fod bach yn fwy anodd i gydio ynddo).

3) Fel mae Mr Gasyth wedi'i grybwyll yn barod, yr olygfa dros Lyn Fawr, Hirwaun, Penderyn a lan sha'r Fforest Fawr o ben Mynydd y Beili Glas (Rhwng Treherbert a'r Ricos).

Ond mae gymaint o olygfeydd hardd yng Nghymru, mae'n amhosib gweud taw hyn a'r llall yw'r gora....

Falle dylen ni ago cyfrif Flickr a rhoi ein lluniau arno fe - jest er mwyn i bawb allu cytuno bod golygfa pawb arall yr un mor odidog!

PostioPostiwyd: Llun 27 Tach 2006 10:34 am
gan Mr Gasyth
y mab afradlon a ddywedodd:Falle dylen ni ago cyfrif Flickr a rhoi ein lluniau arno fe - jest er mwyn i bawb allu cytuno bod golygfa pawb arall yr un mor odidog!


Mae Welsh Landscapes yn bodoli yn barod - mae yna lawer werth ei weld yno

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:55 pm
gan Cynyr
1. Ar ben mynydd Plynlimon gyda golygfa panoramig a'r Barcyd coch yn hedfan .

2. 'Pen-Dinas Lochtyn' ger Llangrannog. Golygfa wych o Ben Llyn, Eryri, Aberystwyth, Llangrannog (oddi tan) Ynys Aberteifi. Ag yffach o lot o mor.

3. Stadiwm y Liberty, Abertawe :winc: