gan jammyjames60 » Iau 23 Tach 2006 7:41 pm
Mae Tignes yn wirioneddol wych, bues i draw fan'na blwyddyn dwetha mi nes i fwynhau o'n arw, mae'r aprés-ski yna yn wych, hefo llawer iawn o dafarndai, a chwpl o glybia' nos i'ch diddori!
Yn bersonol, mi fwynheuais i'r Grizzly Bar yn Nhignes le Lac yn bennaf, awyrgylch anhygoel, lot o lefelau gwahanol a llefydd bach diddorol i ista ynddyn nhw. Tan ENFAWR a mae fanno'n le wych i ymlacio ar ddiwedd y dydd ar ôl diwrnod ar y llethrau sgio. Mae'r bar i gyd 'di'w neud allan o bren, pob un peth gan gynnwys y waliau, y seddi, y byrdda a hyd yn oed y toiledau! Mae'n diddorol iawn iawn i edrych ar ei lyfrau ffotograffau a gweld o le ddoth y darnau o bren a'r addyrniadau i gyd. Rwy'n awgrymu'n arw i fynd yna os 'da chi'n sgio yn yr ardal.
Os mae bywyd nos yr un mor bwysig a safon y sgio, arhosa yn Val Claret (neu gwneud yn siwr ych bod chdi'n picio draw.) Mae'r bywyd nôs llawer gwell na Tignes, a hefyd mae'r complex i gyd mwy agosach at 'i gilydd, so fydd o'n hawsach i fynd nôl i'ch gwesty ar ôl gormod o lasiad o Vin Chaud.
Os 'da chi'n bendant am fynd i certain ardal yn Ffrainc, 'swn i'n awgrymu prynu'r flights 'wan oherwydd y hira arhosi di, y drytach eith y flight. Gair o gall!