Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 1:32 pm
gan jammyjames60
Mae 'na gwmni Cymraeg o'r enw Alpine Tracks sydd yn cynnig gwestai yn lawer o lefydd yn Ewrop a'r Amerig. Meddwl o'n i, os 'sa chdi'n ffonio'r headquarters ym Mhorthaethwy, ella gei di ddiscownt am dy fod ti'n un o'r Cymry? Werth trio yn tydi! :P

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 1:59 pm
gan Geraint
Dwi'n hollol un-cool man. Well gennai sgio, a does gennai ddim diddordeb mewn eira fyrddio. Heb bod sgio am flynyddoedd - doedd dim eira fyrddai o gwmpas y tro dwetha es i. Oes yna densiynau rhwng pobl sy'n sgio ac eria fyrddwyr?

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:08 pm
gan khmer hun
Igluskiyn wefan dda am gynigion munud ola'. Ymuna â'r cylchlythyr ac mae'r ebost bach rheolaidd yn atgoffa ti bod ti ar dân ishe bwco'r gwylie na. Chei di ddim byd llai na £500 yn hawdd iawn; gyda'r ski passes ac ati.

ifyouskiyn un da er mwyn dysgu am y resorts. Tria fynd am y rhai gyda'r mwya' o runs (nifer ucha' o liffts), a chadwa lygad ar sut eira sy'n Ewrop ar teletext.

Un tip - mae cael Half Board yn safio cannoedd. Dw i'n synnu cyn lleied dw i'n gwario bob dydd, drwy brynu baguette a chaws o'r Hypermarché ddechrau'r wythnos i neud rôls i'w byta yn yr eira. Ti'n cael te a swper yn y gwesty wedyn a dwy botel o win - fel arfer ma'r bobol sy'n rhannu bwrdd da ti'n neis a brwd os na gei di Hooray Henrys ofnadw. Roedd lot o Gymru a phobol hyfryd o ogledd Lloegr r'un bwrdd a ni leni a gawson ni ufflon o hwyl da nhw yn tanco bob nos. Anoing braidd os tishe mynd mas i weld y diwylliant ac ymgolli yn yr iaith, ond pan ti'n stiff, di llosgi dy drwyn, yn cerdded fel Neil Armstrong ond yn llawn adrenalin rôl bod ar y slôps drwy'r dydd, 'sdim byd gwell. A mynd lawr i'r bariau lleol wedyn, neu gymryd pnawn bant i fynd i ryw spa awyr agored neu slejo.

Ow. Ishe mynd.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:21 pm
gan khmer hun
Dymaenghraifft - 7 noson, Verbier, HB, lawr £130 i £235 ar Ragfyr 16 a nol deuddydd cyn Dolig. Neis.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 3:18 pm
gan dienw
Jeni Wine a ddywedodd:Yng Nghanada mae Whistler


A tro dwytha nes i sbio, mi odd Canada yng Ngogledd America :winc:

Jeni Wine a ddywedodd:Dwi ddim yn or-hoff o'r lle i fod yn onest. Ma na deimlad "gneud" i'r lle. Mae o'n ffals ac yn llawn rich kids, beautiful-people a twats.


Cytuno i raddau, mae'r rhan fwya o'r 'resorts' sgïo mawr i weld yn denu elfen o bobl felly. Ond pan fyddai'n mynd i eirafyrddio dwi'n gwario rhan fwyaf o'n amser ar yr eira ac yn dueddol o farnu'r llefydd ma ar sail ansawdd/safon yr eira/llethrau/cyfleusterau. Mae mynydd Blackcomb yn Whistler ymysg y goreuon.

Erioed di bod, ond wedi clywed pethau da am Borovets ym Mwlgaria.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 4:16 pm
gan Jeni Wine
dienw a ddywedodd:
Jeni Wine a ddywedodd:Yng Nghanada mae Whistler


A tro dwytha nes i sbio, mi odd Canada yng Ngogledd America :winc:


ia, oce, wise guy.

:wps:

dienw a ddywedodd:...pan fyddai'n mynd i eirafyrddio dwi'n gwario rhan fwyaf o'n amser ar yr eira ac yn dueddol o farnu'r llefydd ma ar sail ansawdd/safon yr eira/llethrau/cyfleusterau. Mae mynydd Blackcomb yn Whistler ymysg y goreuon.


Dwi di bod yn Grouse Mountain wrth ymyl Vancouver (erchyll), Whistler, Jasper, Banff, Mont Tremblant yn Quebec ac yn Tignes ond mond un waith dwi di bod ar black-run (hunllef) felly pwy dwi i ddeud dim! Ond nes i wir fwynhau yn Jasper. Elks a caribws yn rhannu'r strydoedd efo ni a mynyddoedd siarcol o'n cwmpas ni ymhob man.

Ma fy mrawd yn meddwl cymryd blwyddyn allan i fynd i weithio i Whistler flwyddyn nesa. Mi fyddaf yno ar fy union, yn ra-ra-raio hi efo'r dicheds (a dienw :winc: )

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 5:42 pm
gan Blewyn
Mi fum yn Lake Taho, California am bythefnos yn 1997 ac er fod yr eira'n reit dda (ddim da iawn, just reit dda) a'r bars yn Squaw Valley yn wych..........i mi r'oedd'na rhywbeth ar goll yn y profiad. Dwi wedi dod i gysylltu sgio efo diwylliant Ffrainc gymaint fod y vin chaud, apres ski, sil vous plait a 'une autre bouteille mamselle, pronto' yn elfen hanfodol o'r peth i mi erbyn hyn. D'oedd sgio ar y piste a gorfod dreifio i bobman a chlywed ieuenctid parchus yr Amerig yn puo a nadu 'you rawk' 'no, you rawk' just ddim r'un peth rhywsut.

Be ddoth o'r cynllun i gael sgio yng Nghymru ?

PostioPostiwyd: Sad 25 Tach 2006 1:03 am
gan Macsen
Blewyn a ddywedodd:Be ddoth o'r cynllun i gael sgio yng Nghymru ?

Diffyg eira.

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 1:38 pm
gan Cynyr
Os oes rhywun eisau hyfforddwr profiadol, gyda chymhwysterau yn siarad Cymraeg yna cysylltwch a mi. :winc: :winc: :winc: Fedrai ffitio mewn 'suitcase' os fydd rhaid :winc: (wastad yn chwilio am 'ffriibii!!)

Ffrainc yw'r wlad orau yn fy marn i er fod well gen i Awstria gan fod trefi a phobl clen iawn yno ag yn rhatach hefyd. Dreuliaus i pum gaeaf hapus iawn yn gweithio yno.
Os dach chi erioed wedi' neud or blaen yna sdim angen cyrchfan hollol 'flash' gan eich bod yn talu trwy'ch trwyn am llogi offer, lifft pass a.y.b.