Igluskiyn wefan dda am gynigion munud ola'. Ymuna â'r cylchlythyr ac mae'r ebost bach rheolaidd yn atgoffa ti bod ti ar dân ishe bwco'r gwylie na. Chei di ddim byd llai na £500 yn hawdd iawn; gyda'r ski passes ac ati.
ifyouskiyn un da er mwyn dysgu am y resorts. Tria fynd am y rhai gyda'r mwya' o runs (nifer ucha' o liffts), a chadwa lygad ar sut eira sy'n Ewrop ar teletext.
Un tip - mae cael Half Board yn safio cannoedd. Dw i'n synnu cyn lleied dw i'n gwario bob dydd, drwy brynu baguette a chaws o'r Hypermarché ddechrau'r wythnos i neud rôls i'w byta yn yr eira. Ti'n cael te a swper yn y gwesty wedyn a dwy botel o win - fel arfer ma'r bobol sy'n rhannu bwrdd da ti'n neis a brwd os na gei di Hooray Henrys ofnadw. Roedd lot o Gymru a phobol hyfryd o ogledd Lloegr r'un bwrdd a ni leni a gawson ni ufflon o hwyl da nhw yn tanco bob nos. Anoing braidd os tishe mynd mas i weld y diwylliant ac ymgolli yn yr iaith, ond pan ti'n stiff, di llosgi dy drwyn, yn cerdded fel Neil Armstrong ond yn llawn adrenalin rôl bod ar y slôps drwy'r dydd, 'sdim byd gwell. A mynd lawr i'r bariau lleol wedyn, neu gymryd pnawn bant i fynd i ryw spa awyr agored neu slejo.
Ow. Ishe mynd.