Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Sad 06 Ion 2007 4:10 pm
gan S.W.
Mae ne ardal yn Argyll yn Ucheldiroedd yr Alban rhwng Glasgow ac Inverary o'r enw'r 'Rest and Be Thankfull'.

PostioPostiwyd: Llun 08 Ion 2007 4:11 pm
gan Cadno
S.W. a ddywedodd:Mae ne ardal yn Argyll yn Ucheldiroedd yr Alban rhwng Glasgow ac Inverary o'r enw'r 'Rest and Be Thankfull'.


Mae na ardal o'r enw Giggles yn yr Alban hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 7:56 pm
gan Dili Minllyn
sian a ddywedodd:WEdi dod ar draws enw lle anarferol arall - Mitchell Troy - yn Sir Fynwy.

Llanfihangel Troddi yw hwnna yn Gymraeg, ond dw ddim yn siwr beth yw ystyr troddi.

Mae Acre Fair yn un difyr, hefyd. Mae Saeson yn tueddu i'w ynganu fel tasai fe'n Saesneg ("Eicr-ffêr") ond clywais mai enw hanner Saesneg hanner Cymraeg yw e: o acre, sef erw, a Mair, sef mam ein Harglwydd, fel petai.

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 10:41 pm
gan Y Crochenydd
Mae Clatter, rhwng Caersws a Carno'n swnio fel lle difyr :lol:

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 10:53 pm
gan eusebio
Ydi Sebastopol yn ne Cymru wedi ei henwi ar ôl yr un yn yr Wcrain?



[golygu: wrth gwrs, nid yn Rwsia mae'r ddinas ond yn Wcrain - gynt yn yr USSR]

PostioPostiwyd: Mer 10 Ion 2007 10:57 pm
gan Dili Minllyn
Dwi'n meddwl bod brwydr o bwys yn Sebastapol yn Rwsia. Efallai mai dyna sut y daeth yr enw i Gymru, fel yn achos nifer o lefydd o'r enw Waterloo.

'Ta waeth, dwi'n meddwl 'bod ni'n ailadrodd hen edafen.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 6:33 pm
gan Cynyr
Dwi'm ishe tynnu safon y sgwrs i lawr ond ma na le o'r enw Wa**er yn Awstria!

Ro'n i'n gweithio yn yr ardal am sawl blwyddyn ag yn chwerthin bob tro wrth yrru drwodd (hollol blentynaidd dwi'n gwbod!)

Mae'n debyg mae ardal o dir yn berchen i ffermwr lleol o'r enw Mr (Her)Wa**er ydoedd, ag bellach wedi' droi i bentref bychan dros y blynyddoedd maith. Sdim llawer yno chwaith :?

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 3:31 pm
gan Glewlwyd Gafaelfawr
jammyjames60 a ddywedodd:Morgan Jones yng Nghaerffili.


I fod yn fanwl gywir, enw ward etholaethol yw Morgan Jones, efe oedd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf i'w gael ei ethol fel Aelod Seneddol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae chez Glewlwyd mewn lleoliad delfrydol rhwng Parc Morgan Jones a'r Castell.

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 2:22 pm
gan Glewlwyd Gafaelfawr
eusebio a ddywedodd:Ydi Sebastopol yn ne Cymru wedi ei henwi ar ôl yr un yn yr Wcrain?


Yn ôl cyfrol Graham Osborne a Graham Hobbs Place-names of Western Gwent - enwyd y lle gan John Nicholas, gwr a adeiladodd dai ar y safle, er mwyn coffau gwarchae Sebastopol yn ystod Rhyfel y Crimea

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 2:54 pm
gan Mr Gasyth
Bwlch y Crimea ochre Gaernarfon rywle does?

Mae na Knocking yn Swydd Amwythig

Sodom rhwng Dinbych a Wyddgrug

Lloc ger Treffynnon, a tydi Gorsedd, Carmel a Licswm ddim yn bell.

Be ffyc ma Dwygyfylchi'n feddwl, heblaw hreswm i gael laff ar ben Saeson yn trio ei ynganu? A pwy ydi'r Esmor yn Rhosesmor?