Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 2:59 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:Be ffyc ma Dwygyfylchi'n feddwl, heblaw hreswm i gael laff ar ben Saeson yn trio ei ynganu?


Ac ar bwys Dwygyfylchi mae Capelulo.
Dyw Eryrys ddim yn bell chwaith.
Swnio'n rhamantus.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Ion 2007 1:52 pm
gan S.W.
Eryrys ddim yn bell o Dwygyfylchi? Yr un Eryrys sy'n ymyl yr Wyddgrug neu oes na un arall yn ymyl Dwygyflychi?

Tra'n bod ni'n son am yr ardal honno, dwi wastad yn meddwl fod Penmaenmawr yn enw doniol - piti na wnaethon nhw ei gyfeithu i "Hangover".

Plwmp yng Ngheredigion yn enw da hefyd!

PostioPostiwyd: Gwe 26 Ion 2007 1:59 pm
gan bartiddu
S.W. a ddywedodd:.
Plwmp yng Ngheredigion yn enw da hefyd!


Fi'n credu taw'r eglurhad yw fod yna bwmp dwr yna blynydde nol ac roedd pobol yn "plwmpo" fe i cael y dwr lan, a dyna genedigaeth Plwmp!
Yr eglurhad gore fi 'di glywed ta beth! :)

Robertson Wathen yn Sir Benfro, 'na chi enw! Neu ma' fy hen gof yn dechre mynd i Dredin?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 11:27 pm
gan Aled
Teithio ar hyd Wal Hadrian (mewn car, ar hewl) rhai blynyddoedd nôl nethon ni basio Once Brewed a Twice Brewed.

PostioPostiwyd: Sad 26 Mai 2007 3:13 pm
gan Rhodri
Ma na orsaf bys (no pyn intendud) o'r enw Ffingar rhwng Gaernarfon a Phwllheli yn rwla. Rywun yn gwbod pam Ffingar?

A fferm o'r enw Parsal unai ar yr un lon neu wrth ymyl Capel Curig. dwi'n drysu lot efo'r petha ma.

PostioPostiwyd: Sad 26 Mai 2007 4:56 pm
gan sian
Ffingar achos bod 'na arwydd - fingerpost - arfer bod 'na i bwyntio'r ffordd i Gaernarfon, Pwllheli a Phenygroes.
Parsal yn ffarm ar gyrion Trefor - golygu 'darn o dir' - 'parcel of land'.

PostioPostiwyd: Mer 20 Meh 2007 9:04 pm
gan osian
Mae na fynydd or enw Lord Hereford's knob rwla tua De Powys yn ol rhesrt 100 mynydd ucha cymru.

PostioPostiwyd: Mer 20 Meh 2007 9:31 pm
gan huwwaters
The Hundred, rywle ar y gororau, dwi'n meddwl wrth ymyl Leominster.