Dwi newi weld y ffilm Holiday, (ac yn cynghori i chi i'w weld o hefyd!) a meddyliais i fi fy hun y bysa'n reit cwl fynd i aros mewn rhyw fwthyn hen ffash am wylia gyda fy ffrindia.
Allai ddychmygu pawb yn meddwi'n gach yng nghanol nunlle yn hytrach na mynd ogwmpas tafarndai arferol.
Mae gen i dri problem:
1. does gen i ddim syniad lle dwi isho mynd (rhywle hardd, ganol nunlle)
2. dwi ddim yn gwbod sut gai hud i fwthyn (dwim isho gwesty)
3. dwi isho rhywbeth eithaf rhad gan mai myfyrwyr ydym ni.
Ella fy mod i'n gofyn gormod?!
Oes unrhywun gyda cyngor? Yn gwybod am wefan defnyddiol? Ella fod rhywun wedi gwneud rhywbeth tebyg i be dwi eisiau ei wneud? Help!