bwthyn ganol nunlle

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

bwthyn ganol nunlle

Postiogan Fflur2204 » Mer 20 Rhag 2006 9:44 pm

Dwi newi weld y ffilm Holiday, (ac yn cynghori i chi i'w weld o hefyd!) a meddyliais i fi fy hun y bysa'n reit cwl fynd i aros mewn rhyw fwthyn hen ffash am wylia gyda fy ffrindia.

Allai ddychmygu pawb yn meddwi'n gach yng nghanol nunlle yn hytrach na mynd ogwmpas tafarndai arferol.

Mae gen i dri problem:
1. does gen i ddim syniad lle dwi isho mynd (rhywle hardd, ganol nunlle)
2. dwi ddim yn gwbod sut gai hud i fwthyn (dwim isho gwesty)
3. dwi isho rhywbeth eithaf rhad gan mai myfyrwyr ydym ni.

Ella fy mod i'n gofyn gormod?!

Oes unrhywun gyda cyngor? Yn gwybod am wefan defnyddiol? Ella fod rhywun wedi gwneud rhywbeth tebyg i be dwi eisiau ei wneud? Help!
Rhithffurf defnyddiwr
Fflur2204
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 11:06 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan jammyjames60 » Mer 20 Rhag 2006 9:48 pm

Betn am Fythynnod Llanddwyn? Cartrefi gweithwyr y goleudy a'r bad achub oedd y rhain: mae un bellach yn arddangosfa am fywyd gwyllt yr ynys.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Jeni Wine » Iau 21 Rhag 2006 10:50 am

Neu fythynnod Nant Gwrtheyrn de. Gafon ni amsar bendigedig yno nos Calan ddwytha
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan khmer hun » Iau 21 Rhag 2006 12:03 pm

Pan weles i'r llecyn lle mae bwthyn Tan y Clogwen yn Llanfrothen gynta', fe safes i yno'n fud. Mae'r lle yn anhygoel o bert, fel rhywbeth mas o freuddwyd, gyda dail y coed ceirios a'r helyg wylofus yn cwmpo i'r afon wrth y giat a phyllau dwfn i nofio. Ewch chi'm o 'na. Heblaw i'r Ring lan rhewl am fwyd hyfryd ac all-dayer. Siwr mai Cymry sy'n berchen arnyn nhw, neu dylwyth Portmeirion.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Fflur2204 » Iau 21 Rhag 2006 8:24 pm

Dwin rili gwerthfawrogi hynny. Mae nhw'n edrych yn gret!
Rhithffurf defnyddiwr
Fflur2204
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 11:06 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai